Neidio i'r cynnwys

Mission Impossible III

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Cenhadaeth Anmhosibl Iii)
Mission Impossible III
Enghraifft o:ffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi24 Ebrill 2006, 4 Mai 2006, 5 Mai 2006 Edit this on Wikidata
Genreffilm llawn cyffro, ffilm gyffro, ffilm am ysbïwyr, ffilm antur Edit this on Wikidata
CyfresMission: Impossible Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganMission: Impossible II Edit this on Wikidata
Olynwyd ganMission: Impossible - Ghost Protocol Edit this on Wikidata
CymeriadauEthan Hunt, Luther Stickell Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithBerlin, y Fatican, Virginia, Shanghai Edit this on Wikidata
Hyd126 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrJ. J. Abrams Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrTom Cruise, Paula Wagner Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuParamount Pictures, Cruise/Wagner Productions, China Film Group Corporation, Babelsberg Studio, Bad Robot Productions Edit this on Wikidata
CyfansoddwrMichael Giacchino Edit this on Wikidata
DosbarthyddUIP-Dunafilm, Netflix Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg, Eidaleg, Tsieineeg Mandarin, Cantoneg, Almaeneg, Tsieceg, Mandarin safonol, Tsieineeg Yue Edit this on Wikidata[1]
SinematograffyddDaniel Mindel Edit this on Wikidata[2]
Gwefanhttps://www.paramountmovies.com/movies/mission-impossible-iii Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffilm gyffro sy'n serennu Tom Cruise fel yr asiant IMF (Impossible Mission Force), Ethan Hunt, yw Mission: Impossible III (2006). Dyma'r drydedd ffilm ysbiol sy'n seiliedig ar y gyfres deledu.

Cyfarwyddwyd y ffilm gan J. J. Abrams. Fe'i cynhyrchwyd gan Tom Cruise a Paula Wagner yn Unol Daleithiau America; roedd sawl cwmni cynhyrchu, gan gynnwys: Paramount Pictures, Babelsberg Studio, Bad Robot Productions, Cruise/Wagner Productions, China Film Group Corporation. Fe'i rhyddhawyd ar y 26 Ebrill 2006, yng Ngŵyl Ffilmiau Tribeca cyn cael ei rhyddhau'n gyffredinol ar y 5 Mai 2006. Dechreuwyd ar y broses ffilmio yn Rhufain, yr Eidal yng Ngorffennaf 2005. Ychydig iawn o wybodaeth a ddatgelwyd am blot y ffilm cyn iddi gael ei rhyddhau. Cafodd ei ffilmio hefyd yn Tsieina (Shanghai, Xitang, a Zhouzhuang), yr Almaen (Berlin), yr Eidal (Rhufain a Caserta), yr Unol Daleithiau (Califfornia a Virginia), a Dinas y Fatican.

Sgwennwyd y sgript gan Alex Kurtzman a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Michael Giacchino.

Daniel Mindel oedd sinematograffydd ('cyfarwyddwr ffotograffi') y ffilm hon a chafodd ei golygu gan Mary Jo Markey a Maryann Brandon sydd ymhlith y golygyddion lleiaf toreithiog.

Mae'r ffilm yn 126 munud o hyd a chafodd ei ffilmio mewn lliw, gyda gwedd gymharol (aspect ratio) o 2.35:1. [3][4][5][6][7]

Y prif actorion yn y ffilm hon yw Tom Cruise, Eddie Marsan, Philip Seymour Hoffman, Laurence Fishburne, Jonathan Rhys Meyers, Michelle Monaghan, Keri Russell, Sasha Alexander, Simon Pegg, Bahar Soomekh, Tracy Middendorf, Aaron Paul, Greg Grunberg, Ving Rhames, Billy Crudup, Bellamy Young, Carla Gallo, Paolo Bonacelli, Maggie Q, Jeff Chase, Timothy Omundson, José Zúñiga, Daniel Mindel, Rose Rollins, Charles Chun, Francesco De Vito, Jane Daly, George Cheung, James Shanklin, Lucille Soong, Andrea Sartoretti, Brandon Molale, Giorgio Marchesi, Niccolò Senni, Kathryn Fiore, Barney Cheng, Bruce French, Ellen Bry, Sean O'Bryan, Jonathan Dixon, Michelle Arthur, Sabra Williams, Ty Williams, Michael Berry Jr. a Diane Marshall-Green.

Y gyfres

[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â'r drydedd ffilm hon, cynhwysa'r gyfres y ffilmiau canlynol: Mission: Impossible (1996), Mission: Impossible II (2000), Mission: Impossible - Ghost Protocol (2011), Mission: Impossible – Rogue Nation (2015),[8] a Mission: Impossible - Fallout (2018).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://www.imfdb.org/wiki/Mission:_Impossible_III.
  2. http://www.filmaffinity.com/en/film767331.html.
  3. Genre: http://www.ofdb.de/film/100870,MiIII. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016. http://www.imdb.com/title/tt0317919/. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016. http://www.metacritic.com/movie/mission-impossible-iii. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016.
  4. Iaith wreiddiol: http://www.imfdb.org/wiki/Mission:_Impossible_III.
  5. Dyddiad cyhoeddi: https://www.imdb.com/title/tt0317919/releaseinfo. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 4 Awst 2022. http://www.imdb.com/title/tt0317919/releaseinfo. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2017. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. https://www.imdb.com/title/tt0317919/releaseinfo. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 4 Awst 2022.
  6. Cyfarwyddwr: http://www.allocine.fr/film/fichefilm_gen_cfilm=28602.html. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016. http://www.ofdb.de/film/100870,MiIII. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016. http://www.imdb.com/title/tt0317919/. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016. http://bbfc.co.uk/releases/mission-impossible-iii-0. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016. http://www.cinemarx.ro/filme/Mission-Impossible-III-Misiune-Imposibila-III-4315.html. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016. https://www.siamzone.com/movie/m/3889. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016. http://stopklatka.pl/film/mission-impossible-iii. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016.
  7. Sgript: https://www.siamzone.com/movie/m/3889. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016. http://www.cinemarx.ro/filme/Mission-Impossible-III-Misiune-Imposibila-III-4315.html. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016. https://www.siamzone.com/movie/m/3889. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016. http://www.cinemarx.ro/filme/Mission-Impossible-III-Misiune-Imposibila-III-4315.html. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016. https://www.siamzone.com/movie/m/3889. dyddiad cyrchiad: 17 Ebrill 2016.
  8. "TOLDJA: Christopher McQuarrie Confirmed To Helm 'Mission: Impossible 5′". Deadline.com. Penske Media Corporation. 5 Awst 2013. Cyrchwyd 30 Hydref 2013.