Neidio i'r cynnwys

Castell Gwern y Domen

Oddi ar Wicipedia
Castell Gwern y Domen
Mathcastell mwnt a beili Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Sirol Caerffili
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.583536°N 3.1921°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM218 Edit this on Wikidata

Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Castell Gwern y Domen, heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: Bedwas, Bwrdeistref Sirol Caerffili; cyfeiriad grid ST175878. Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry.

Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: GM218 .[1]

Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Data Cadw
  2. ["Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-10-25. Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)]
Eginyn erthygl sydd uchod am Fwrdeistref Sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato