Castell Aberedw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Aberedw
Powys
Still standing - geograph.org.uk - 1328127.jpg
Y rhan orau o Gastell Aberedw sydd wedi goroesi
Math Castell
Gwybodaeth am y safle
Cyflwr Adfail
Hanes y safle
Adeiladwyd 1093

Mae olion Castell Aberedw, sydd hefyd yn cael ei adnabod wrth yr enw 'Castell yn Elfael Uwch Mynydd',[1] wedi eu lleoli ym mhentref Aberedw ym Mhowys. Cafodd ei adeiladu yn hwyr yn y 12g, ac yn ôl pob tebyg wedi disodli'r castell mwnt a beili a leolwyd ychydig gannoeddd o fedrau i ffwrdd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd y castell ei osod i Walter Heckelutel, dan Drwydded Grenellog (yr hawl i adeiladu wal sy'n cynwys elfenau amddiffynnol), gan y Brenin Edward I o Loegr ar 24 Tachwedd 1284. Mae rhai yn awgrymu bod yr angen am Drwydded Grenellog yn foddion i'r Brenin darostwng yr arglwyddi i'w awdurdod, ond mae eraill yn anghytuno. [2] Mae hanes cynharach y castell yn ansicr. Mae rhai haneswyr wedi awgrymu bod y castell gwreiddiol wedi ei adeiladu gan y Normaniaid wrth iddynt geisio cael troedle i mewn i ddeheubarth Cymru ym 1093.[3]

Mae eraill wedi awgrymu ei fod yn gastell Cymreig yn wreiddiol. Yn sicr roedd Aberedw yn nwylo Tywysogaeth Gwynedd erbyn 1282 gan fod Llywelyn ap Gruffudd wedi gwario ei noson olaf ar dir y byw yn y castell cyn iddo deithio i Cilmeri[4] lle cafodd ei lofruddio gan Adam Francton, un o asiantau Brenin Lloegr.[5]

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y castell yn adeilad hirsgwar gyda thyrau crwn 6 metr (20 troedfedd) ar bob ongl.[6] Roedd yn cael ei amgylchynu gan ffos tua 10 i 15 metr (33 i 49 troedfedd) o led. Mae'n sefyll i'r dwyrain o orlifdir yr Afon Gwy. Mae olion y ffos i'w gweld ar y tair ochr arall. Roedd mynediad drwy sarn ar draws y ffos ar yr ochr ddwyreiniol. Mae rhai arwyddion o adeiladau mewnol yn goroesi. Mae olion llithrennau geudy (fath o doiled) yn y tyrau dwyreiniol. Mae'r adeilad bellach yn adfail. Cafodd y rhan fwyaf o ochr orllewinol y castell ei ddinistrio wrth adeiladu rheilffordd yn y 19eg ganrif. Cafodd llawer o gerrig y castell eu defnyddio ar gyfer gosod sylfeini'r trac.[7] Mae'r adfeilion mewn cyflwr gwael iawn ac mae erydu yn parhau i achosi difrod i'r safle.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]