Carneddau crynion Mynydd Rhiw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Carneddau crynion Mynydd Rhiw
Math carnedd gron Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.22°N 4.02°W Edit this on Wikidata
Dynodwr Cadw CN346 Edit this on Wikidata

Carneddau crynion sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd Oes y Cerrig a chychwyn Oes yr Efydd ydy Carneddau crynion Mynydd Rhiw, ar lethrau uchaf Mynydd Rhiw sy'n isgopa i fryn Moel Wnion yng nghymuned Abergwyngregyn, Gwynedd; cyfeiriad grid SH653708. Ei phwrpas, mae'n debyg, oedd bod yn rhan o seremoniau neu ddefodau crefyddol a oedd yn ymwneud â chladdu'r meirw. Ni ddylid cymysgu'r garnedd gron gyda'r garnedd gylchog sy'n fath cwbwl wahanol i garnedd.

Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN346.[1]

Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau, cytiau Gwyddelod a meini hirion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]