Moel Wnion
Jump to navigation
Jump to search
Math |
mynydd ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.192419°N 4.044455°W ![]() |
![]() | |
Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Moel Wnion. Saif heb fod ymhell o'r arfordir a Thraeth Lafan, i'r de-orllewin o Abergwyngregyn ac i'r gogledd ddwyrain o Bethesda a Llanllechid. Ef yw'r copa pellaf i'r gogledd-orllewin o'r Carneddau, ychydig i'r gogledd-orllewin o gopa Drosgl.
Gellir ei ddringo oddi ar Lwybr y Gogledd, sy'n mynd heibio ei lechweddau gogleddol.
Ger ei gopa ceir carnedd gron Moel Wnion, carnedd gron gynhanesyddol sy'n dyddio o Oes yr Efydd, yn ôl pob tebyg.