Caradog Roberts

Oddi ar Wicipedia
Caradog Roberts
Ganwyd30 Hydref 1878 Edit this on Wikidata
Rhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mawrth 1935 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata

Roedd Caradog Roberts (30 Hydref 18783 Mawrth 1935) yn gyfansoddwr, organydd a chorfeistr Cymraeg.[1]

Cafodd Roberts ei eni yn Rhosllannerchrugog yn fab i John a Margaret Roberts.  Roedd ganddo dalent cerddorol ers ei blentyndod, gan gystadlu mewn ac ennill nifer o wobrau mewn eisteddfodau.[2]

Astudiodd y piano a'r organ, gan ddod yn organydd capel yr Annibynwyr Mynydd Seion, Ponciau o 1894 i 1903.  Daeth yn organydd yng Nghapel yr Annibynwyr Bethlehem, Rhosllanerchrugog y flwyddyn wedyn, gan barhau i wneud hynny tan ei farwolaeth.  Graddiodd yn Rhydychen gyda B.Mus (1906) a D. Mus (1911)[3]  O 1914 i 1920, ef oedd Cyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Bangor.

Roedd Roberts yn un o olygyddion y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd [4] (1921), llyfr emynau yr Annibynwyr Cymraeg, ynghyd â Chaniedydd Newydd yr Ysgol Sul (1930), llyfr emynau'r Ysgol Sul yr un enwad.

Roedd Roberts yn gyfansoddwr ac yn drefnydd tonau emynau toreithiog, gyda nifer ohonynt wedi ymddangos mewn nifer o lyfrau emynau Cymraeg.  Ymhlith y mwyaf adnabyddus mae Rachie (emyn-dôn) ac In Memoriam, teyrnged Harry Evans, y cyfansoddwr Cymraeg .

Bu farw yn Wrecsam, Sir Ddinbych, ar 3 Mawrth 1935, a chafodd ei gladdu ym mynwent Rhosllannerchrugog.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Dr Caradog Roberts". Wrexham History. Cyrchwyd 8 November 2016.
  2. Welsh Biography Online
  3. Evans, Robert; Humphreys, Maggie; Dictionary of Composers for the Church in Great Britain and Ireland.
  4. Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd ar Google Books