Caer Beris

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Caer Beris
Math tomen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.146481°N 3.419725°W Edit this on Wikidata
Dynodwr Cadw BR093 Edit this on Wikidata

Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Caer Beris, heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: Cilmeri, Powys; cyfeiriad grid SO029507. Enwyd plasdy lleol gerllaw ar ei hôl.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Plasdy Caer Beris yn y 1920au

Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf 11g ac ail hanner 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry.

Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: BR093.[1]

Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.