Cadair eisteddfodol
Cadair bren a wobrwyir i enillydd eisteddfod yw cadair eisteddfodol.
Gellir olrhain traddodiad y gadair farddol yn ôl i amser Cyfraith Hywel, pan oedd y Pencerdd yn ennill yr hawl i sedd arbennig yn neuadd y tywysog drwy fuddugoliaeth yn yr ymryson beirdd. Derbynai Beirdd yr Uchelwyr fedal arian ar ffurf cadair, a'i wisgid ar yr ysgwydd chwith. Cafodd y fath "gadeiriau" eu rhoi'n wobr i feirdd yn eisteddfodau Caerfyrddin yn 1451 a Chaerwys yn 1523 ac yn 1567. Diflannai'r arfer hon yng nghyfnod eisteddfodau'r tafarnau yn y 18g.[1]
Cafodd delw'r gadair ei hysgythru ar ambell fedal yn eisteddfodau rhanbarthol yn nechrau'r 19g. Un ohonynt oedd yn wobr i Walter Davies (Gwallter Mechain) am yr awdl yn Eisteddfod Caerfyrddin 1819, ac ar 10 Ionawr 1821 fe dderbyniodd y bardd hwnnw gadair dderw oddi ar y Cyfeillion Amyneddgar er anrhydedd iddo. Fel arall, parhaodd y fedal arian yn wobr eisteddfodol nes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885, pan sefydlwyd seremoni gadeirio'r bardd am yr awdl orau.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.) The New Companion to the Literature of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1998), t. 101.