Célestin Hennion
Célestin Hennion | |
---|---|
Ganwyd | 8 Medi 1862 Gommegnies |
Bu farw | 14 Mawrth 1915 o canser Sainte-Adresse |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | heddwas, swyddog |
Swydd | Prefect of Police of Paris |
Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur, Commander of the Royal Victorian Order |
llofnod | |
Swyddog heddlu Ffrangeg oedd Célestin Hennion CVO (8 Medi 1862 – 14 Mawrth 1915), a ddaeth yn Préfecture de Police. Mae'n nodweddiadol oherwydd iddo aildrefnu'r Préfecture a chyflwyno'r Brigades du Tigre.[1] Cysidrir ef i fod yn gyfrifol am siapio ffurf a gwaith yr heddlu cyfoes.[2]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Hennion yn Gommegnies yn 1862, yn fab i Joseph Ghislain Hannion a Mary Catherine Basilaire. Addysgwyd yn Lycee Le Quesnoy. Ar ôl gadael yr ysgol ramadeg ymunodd â Byddin Ffrainc, a cafodd ei swyddi yn Tiwnisia fel rhan o'r 110fed catrawd gwŷr traed, o 1880 hyd 1885, yn ystod yr adeg hwnnw daeth Tiwnisia yn Protectoriaeth Ffrengig.
Perthnasau enwog
[golygu | golygu cod]Ar raglen cyntaf 7fed cyfres Who Do You Think You Are? y BBC, datgelwyd fod Davina McCall yn or-wyres i Hennion.[3] Rhoddodd Pierre, mab Hennion a thaid McCall, fedal Royal Victorian Order Hennion iddi, a dangoswyd hwn ar y rhaglen.[4] Yn y rhaglen, a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar 15 Gorffennaf 2009, dysgodd McCall hanes Hennion gan y haneswyr Jean-Marc Berliere a Simon Kitson yn ogystal â chefnder mam McCall, wyres Hennion, sef Françoise Hennion. Wedi clywed sut y bu ei hen-thiad yn ymwneud â'r Achos Dreyfus, cyfarfodd hefyd â gor-wyres Alfred Dreyfus, Yael Ruiz.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ History of the Museum - 20th Century. The prefecture de police museum.
- ↑ Célestin Hennion, Préfet de Police - Créateur des "Brigades du Tigre".
- ↑ Who Do You Think You Are? - Davina McCall. The National Archives (2009-07-16).
- ↑ 4.0 4.1 BBC Two Who Do You Think You Are?, Series 7, Davina McCall (2009-07-15).