Yr Archifau Cenedlaethol
Math | archifdy cenedlaethol, adran anweinidogol o'r llywodraeth |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Richmond upon Thames |
Agoriad swyddogol | Ebrill 2003 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Kew |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.48106°N 0.2797°W |
Yr archif swyddogol a'r cyhoeddwr ar gyfer Llywodraeth y DU ac ar gyfer Lloegr a Chymru ydy'r Archifau Cenedlaethol (Saesneg: The National Archives). Mae'n adran anweinidogol Llywodraeth y DU; fe'i noddir gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon archifau cenedlaethol ar wahân, sef Cofnodion Gwladol yr Alban a Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus Gogledd Iwerddon.
Crëwyd yr Archifau Cenedlaethol ym mis Ebrill 2003 trwy gyfuno'r Archifdy Gwladol a'r Comisiwn Llawysgrifau Hanesyddol. Ym mis Hydref 2006 cyfunodd â'r Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus, a oedd yn cynnwys Llyfrfa Ei Mawrhydi. Ers mis Rhagfyr 2008 mae hefyd wedi cynnal Cronfa Ddata Cyfraith Statud y DU.
Mae pencadlys yr Archifau Cenedlaethol wedi'i leoli yn Kew, Llundain Fwyaf. Mae ganddynt swyddfa arall yn Norwich, Dwyrain Lloegr, ac mae rhai o'u cofnodion wedi'u storio'n ddiogel yng Nghloddfa Halen Winsford, Winsford, Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr.[1]
-
Ystorfa mapiau
-
Silffoedd symudol
-
Yr ystafell weinyddion
-
Coridor ffeiliau
-
Mae ymchwilydd yn archwilio llawysgrif
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Deepstore Records Management; adalwyd 8 Rhagfyr 2017.