Yr Archifdy Gwladol

Oddi ar Wicipedia
Yr Archifdy Gwladol
Enghraifft o'r canlynoladeilad, archifdy cenedlaethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1838 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganYr Archifau Cenedlaethol Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthDinas Llundain Edit this on Wikidata
Cyn lleoliad yr Archifdy Gwladol yn Chancery Lane, Llundain; ers 2001 bu'n gartref i Lyfrgell Maughan, Coleg y Brenin, Llundain

Gwarcheidwad archifau cenedlaethol y Deyrnas Unedig o 1838 hyd 2003 oedd yr Archifdy Gwladol (Saesneg: Public Record Office). Yn 2003 cyfunodd â'r Comisiwn Llawysgrifau Hanesyddol i ffurfio'r Archifau Cenedlaethol. Sut bynnag, mae'r Archifdy Gwladol yn dal i fodoli fel endid cyfreithiol.

Sefydlwyd yr Archifdy Gwladol gan Ddeddf Seneddol ym 1838, i ddiwygio cadw cofnodion y llywodraeth a llysoedd. Cynhaliwyd y rhain yn flaenorol mewn amrywiaeth o leoliadau, yn aml mewn amgylchiadau gwael. Ar y dechrau, nid oedd gan neb ond cyfreithwyr yr hawl i ddefnyddio'r cofnodion, a dim ond ar ôl talu ffi oedd hynny. Sut bynnag, ar ôl 1852 daeth y cofnodion ar gael yn rhwydd i bwrpas ysgolheictod.

Ymysg prif swyddogion yr Archifdy Gwladol rhaid enwi Hilary Jenkinson a fu yno rhwng 1906 a 1954, gan arwain y sefydliad o 1947 hyd 1954.