Cofnodion Gwladol yr Alban

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
HM General Register House, Caeredin; Pencadlys Cofnodion Gwladol yr Alban

Adran anweinidogol Llywodraeth yr Alban ydy Cofnodion Gwladol yr Alban (Saesneg: National Records of Scotland). Mae'n gyfrifol am gofrestru sifil, y cyfrifiad yn yr Alban, ystadegau demograffig, hanes teuluol a'r archifau cenedlaethol a chofnodion hanesyddol.[1]

Crëwyd Cofnodion Gwladol yr Alban ym mis Ebrill 2011 trwy gyfuno Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban (Saesneg: General Register Office for Scotland) ac Archifau Gwladol yr Alban (Saesneg: National Archives of Scotland).

Pencadlys Cofnodion Gwladol yr Alban yw New Register House, Caeredin. Dyluniwyd yr adeilad gan Robert Adam, ac fe'i hagorwyd i'r cyhoedd ym 1788.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) National Records of Scotland: What We Do; adalwyd 15 Rhagfyr 2017.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]