Buchedd Cybi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Casgliad o lawysgrifau a ganfuwyd yn 2017 yw Buchedd Cybi a gedwir yn Llyfrgell Beinecke ym Mhrifysgol Yale, New Haven, Connecticut.[1]

Darlun o Sant Cybi, ar ffenestr yn Eglwys Sant beuno, Penmorfa, Gwynedd.

Ceir yr unig gopi o'r Fuchedd yn Yale, Llyfrgell Beinecke (Osborn fb 229) ac fe'i ystyrir yn hynod bwysig gan ei fod yn rhoi golau newydd ar ein dealltwriaeth o hagiograffeg Gymreig. Mae'n gasgliado ddeunyddiau hagiograffaidd o'r 17g ac yn cynnwys copïau o destunau canoloesol yn Gymraeg, Lladin, a Saesneg.

Cymrawd ymchwil gyda phrosiect Vitae Sanctorum Cambriae yw David Callander a bu'n gweithio yn y llyfrgell rhwng a 2017–8; daeth o hyd i'r Fuchedd tra'n ymchwilio i'r ysgolhaig a'r Iesuwr William Farrar (Ebrill 1583 – c. 1637). Ceir yr unig gopi o'r Fuchedd yn Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb 229. Bydd David Callander yncyhoeddi adroddiad ar y darganfyddiad yn y dyfodol agos.

Y testun pwysicaf yn y llawysgrif hon yw fersiwn unigryw o fuchedd Ladin ganoloesol Cybi (o Gaergybi, Ynys Môn). Mae'n cynnwys deunydd unigryw, gan gynnwys stori am Gybi'n symud maen mawr o'r fynedfa i fasilica Pedr a disgrifiad o gyfarfod rhwng Cybi a'r Pab.

Gweddïau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfrgell Beinecke, 2014

Mae gweddïau unigryw yn dilyn y Fuchedd newydd yn llawysgrif Yale, sydd bron yr un mor ddiddorol â'r Fuchedd ei hun. Rhoddant gipolwg unigryw ar grefydd ym Môn yn yr Oesoedd Canol. Ychydig iawn o ddeunydd litwrgaidd (sy'n ymwneud â seintiau Cymru) sydd wedi goroesi yng Nghymru.

Llyfrgell Beinecke[golygu | golygu cod y dudalen]

Canfuwyd y llawysgrif yn un o lyfrgelloedd Prifysgol Yale, sef The Beinecke Rare Book & Manuscript Library. a leolir yn New Haven, Connecticut. Mae'r llyfrgell yn arbenigo mewn llyfrau prin ac yn gweithredu hefyd fel archifdy. Agorwyd yr adeilad yn 1963.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. seintiaucymru.ac.uk; Gwfan Seintiau Cymru; adalwyd 29 Ionawr 2019.
  2. "'Gordon Bunshaft on Beinecke Library'". Som.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 June 2011. http://www.som.com/content.cfm/gordon_bunshaft_interview_on_beinecke_library. Adalwyd 2011-06-01.