Brycheiniog (cylchgrawn)
| Enghraifft o: | cyfnodolyn, cyfnodolyn academaidd |
|---|---|
| Cyhoeddwr | Brecknock Society and Museum Friends |
| Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1955 |
| Lleoliad cyhoeddi | Aberhonddu |
| Gwefan | http://www.brecknocksociety.co.uk/society.htm |
| Dynodwyr | |
Cylchgrawn archaeoleg a hanesyddol Saesneg, blynyddol yw Brycheiniog a gyhoeddir gan Gymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa (Saesneg: Brecknock Society and Museum Friends), cymdeithas syddm wedi'i sefydlu yn Sir Frycheiniog (y Powys fodern; hen deyrnas Brycheiniog) yng Nghymru.
Sefydlwyd Cymdeithas Brycheiniog tua 1928 i hybu dealltwriaeth o dreftadaeth naturiol a hanesyddol y sir. Ym 1986 ymunodd â Chyfeillion Amgueddfa Brycheiniog i ffurfio Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa.
Cychwynnwyd cyhoeddi'r cylchgrawn ym 1955, ac mae'n cynnwys erthyglau academaidd yn ymwneud â’r ardal, adolygiadau ar lyfrau a rhestrau coffa. Mae hefyd yn cynnwys nodiadau ar y gymdeithas.
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido yn rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.