Brwydr Craig-y-dorth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

51°53′49″N 2°45′04″W / 51.8969°N 2.7512°W / 51.8969; -2.7512Cyfesurynnau: 51°53′49″N 2°45′04″W / 51.8969°N 2.7512°W / 51.8969; -2.7512

Brwydr Craig-y-dorth
Brwydr Craig-y-dorth
Brwydr Craig-y-dorth

Un o frwydrau Owain Glyn Dŵr oedd Brwydr Craig-y-dorth (neu Frwydr Craig y Dorth; "ar graic ydorth") a ymladdwyd yn 1404 pan gafodd y Cymry fuddugoliaeth dros y Saeson. Dyma'r ail frwydr a ymladdwyd rhwng y Cymry a'r Saeson y flwyddyn honno; y gyntaf oedd Brwydr Mynydd Camstwn ("ar vynydd kamstwm").[1] Gan fod byddin Lloegr ar ffo, cred rhai iddynt encilio i gopa Craig-y-dorth er mwyn mantesio ar uchter y copa, i amddiffyn eu hunain, ond iddynt gael eu trechu yno a'u herlid hyd at bont Trefynwy.

Saif Craig-y-dorth un filltir i'r gogledd-ddwyrain o eglwys Cwmcarfan, rhwng Penclawdd a Threfynwy.

Mae'r unig gyfeiriad i'r frwydr i'w gael yng Nghroniclau Owain Glyn Dŵr a sgwennwyd gan y bardd Gruffudd Hiraethog rhwng 1556 a 1564. Dywed i'r frwydr fod yn llwyddiant ysgubol i'r Cymru, pan laddwyd y mwyafrif o'r Saeson ac yr erlidiwyd nhw ar ddiwedd y frwydr, hyd at gatiau Pont Trefynwy.[2]

Maint y byddinoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dywed y Tywysog Harri o Loegr mewn llythyr (dyddiedig 26 Mehefin) at ei dad: "mae'r Cymry wedi disgyn i lawr i Swydd Henffordd gan losgi a difethau'r sir a hynny am gyfnod o 15 diwrnod!" Mewn llythyr at Gyngor y Brenin a sgwennwyd ganddo ar yr un diwrnod dywedodd Harri fod Owain wedi codi byddin o bob Cymro o Fôn i Fynwy![3]

Gwyddom maint byddin Lloegr rhwng Gorffennaf a Thachwedd 1404 yn eitha manwl, gan fod nodyn gan Gyngor y Brenin yn nodi fod y nifer a gyflogwyd yn: 500 o ddynion arfog a 2,000 o fwa-saethwyr.

Lleoliad[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodwyd lleoliad mwnt neu dwmpath ar hen fapiau, gan gynnwys map y Degwm, 1843 fod y mwnt yn fedd i'r rhai a gladdwyd. Yn dilyn ymchwil Lidar gan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn Ionawr 2014, cafwyd hyd i'r mwnt (28m mewn diametr) ond wedi peth ymchwil, gwelwyd mai hen chwrel o'r Oesoedd Canol ydoedd. Ni chanfuwyd arteffactau, yn ôl CBHC.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk; adalwyd 8 Mehefin 2018.
  2. meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk; 1404 Battle of Craig y Dorth; Archaeology Wales; Llanfihangel Troddi, Sir Fynwy; awdur; Chris E Smith BA (Hons) MA MIfA; adroddiad rhif 1210.
  3. Dywed yn y llythyr: all the force of South Wales and North Wales which they could raise; gweler meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk. Adalwyd 28 Gorffennaf 2018.