Brean Down

Oddi ar Wicipedia
Brean Down
Mathpenrhyn, bryn Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBrean
Daearyddiaeth
SirGwlad yr Haf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr97 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.3256°N 3.029°W Edit this on Wikidata
Cod OSST2849159008 Edit this on Wikidata
Amlygrwydd91 metr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolCarbonifferaidd Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBryniau Mendip Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata

Penrhyn yn Ardal Sedgemoor, Gwlad yr Haf, rhwng Weston-super-Mare a Burnham-on-Sea, yw Brean Down.[1] Mae'n ymestyn filltir a hanner i mewn i Fôr Hafren ac yn sefyll 100 medr / 320 troedfedd uwchben y môr ar ei frig. Mae ef wedi'i wneuthur o galchfaen carbonifferaidd. Yn ddaearegol, mae'n rhan o'r Bryniau Mendip sy'n rhedeg ar draws gogledd canol Gwlad yr Haf, fel y mae ynysoedd y Môr Hafren, Steep Holm ac Ynys Echni. Mae'n gartref i nifer o blanhigion prin gan gynnwys rhosynnau y garreg gwynion (Helianthemum apenninum), y gorfrwynen (Carex humilis), y peneuraid (Ranunculus auricomus) a brigwellt Gwlad yr Haf (Koeleria vallesiana). Trigolion eraill y penrhyn yw cwningod, draenogod, llygod y maes, llygod y gwair a chwistlod. Mae adar yn cynnwys ehedyddion, corhedyddion y waun, llinosod a thitẅod tomos gleision.

Adeiladwyd caer ar derfyn y penrhyn rhwng 1862 a 1870 (Palmerston Fort) i wrthsefyll grym llynges Ffrainc. Roedd yn rhan o gyfres o geyrydd o gwmpas y Môr Hafren gyda cheyrydd eraill ar Benrhyn Larnog, Ynys Echni a Steep Holm. Ym 1900, lladdwyd milwr yn y caer gan ffrwydrad enfawr. Perodd y ffrwydrad ddifrod sylweddol i'r caer, a bu rhaid i'r fyddin gefnu ar y safle yn fuan wedyn. Cafodd ei ailarfogi am gyfnod yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ei berchennog heddiw yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe'i gwarchodir fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 9 Gorffennaf 2019

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]