Bracla
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 11,749 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.513°N 3.551°W ![]() |
Cod SYG | W04000882 ![]() |
Cod OS | SS925805 ![]() |
Cod post | CF31 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Carwyn Jones (Llafur) |
AS/au | Jamie Wallis (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Mae Bracla, neu weithiau "Bragle",[1] (Saesneg: Brackla) yn un o faestrefi Pen-y-bont ar Ogwr ac yn gymuned, i'r dwyrain o'r dref ei hun. Ystad breswyl enfawr ac iddi oddeutu 12,000 o drigolion yw hi sydd ar lethr deheuol Bryn Bragle.
Fe'i codwyd ar diroedd Tŷ Waunscil a Fferm Tremaen. Cododd y cyngor lleol yr ystad wreiddiol yn y gorllewin o amgylch chwarel Tremaen yn y 50au, ond codwyd y rhan fwyaf o'r ystad gan gwmnïau preifat o'r 70au ymlaen. O dan yr ystad mae nifer o dwnelau a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd i storio arfau a gynhyrchwyd yn ffatri Tredŵr gerllaw. Defnyddiwyd rhai o'r twnelau wedyn gan GCHQ. Mae nifer o nentydd bychain yn codi o ffynhonnau yn y galchfaen sydd yn y bryn ac yn llifo i lawr i Afon Ewenni yn Nhredŵr. Yr un fwyaf yw Nant Sana.
Mae'r ystad yn dal i ehangu ar weddill tiroedd Fferm Tremaen (sy'n cynnwys y ffermdy ei hun!) ac ar draws dolau Nant Morfa tuag at bentref Coety i'r gogledd.
Ysgolion[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae yna bedair ysgol ar yr ystad.
- Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
- Ysgol Archddeon John Lewis yr Eglwys yng Nghymru
- Ysgol Gynradd Tremaen
- Ysgol Gynradd Bragle
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Enw safonol: gweler Gwyddoniadur Cymru a rhestr Cymdeithas Enwau lleoedd cymru
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Abercynffig · Abergarw · Betws · Blaengarw · Bragle · Bryncethin · Brynmenyn · Caerau · Cefn Cribwr · Corneli · Cwm Ogwr · Cynffig · Drenewydd yn Notais · Heol-y-cyw · Llangeinwyr · Llangrallo · Llangynwyd · Maesteg · Melin Ifan Ddu · Merthyr Mawr · Mynydd Cynffig · Nant-y-moel · Notais · Pencoed · Pen-y-bont ar Ogwr · Pen-y-fai · Y Pîl · Pontycymer · Porthcawl · Price Town · Sarn · Ton-du · Trelales · Ynysawdre