Bleddyn Owen Huws

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bleddyn Owen Huws
Ganwyd Dyffryn Nantlle Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth darlithydd, ysgolhaig, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus am Detholiad o Gywyddau Gofyn a Diolch, Martha, Hanes Cyhoeddi Cerddi Eryri (1927) Carneddog Edit this on Wikidata
Tad O. P. Huws Edit this on Wikidata

Ysgolhaig a hanesydd llenyddiaeth Gymraeg yw Bleddyn Owen Huws. Mae'n Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe'i etholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar 23 Mai 2018.[1]

Ar y cyd ag A. Cynfael Lake yn 1995, sefydlodd y cylchgrawn Dwned, sef cylchgrawn hanes a llenyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol, ac mae'r ddau yn parhau'n gyd-olygyddion arno. Mae'n ddarlithydd sy'n cyfrannu'n rheolaidd i gymdeithasau diwylliannol a llenyddol ledled Cymru. Ei brif faes ymchwil yw cyfnod y Cywyddwyr a'r Dadeni. Cyhoeddodd yn helaeth hefyd ar rai o lenorion Eryri yn yr 20g, megis y llyfryn Hanes Cyhoeddi Cerddi Eryri (1927), Carneddog a gyhoeddwyd 30 Tachwedd, 1999 gan Gyhoeddiadau Barddas,[2] ac am y gyfrol Detholiad o Gywyddau Gofyn a Diolch a gyhoeddwyd eto gan Gyhoeddiadau Barddas yn 1988.

Hanes Cyhoeddi Cerddi Eryri (1927), Carneddog (llyfr).jpg

Mae'n fab i O. P. Huws, un o sefydlwyr Cwmni Recordiau Sain ac yn enedigol o Ddyffryn Nantlle, Gwynedd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwobrau
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015
Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.