O. P. Huws
| O. P. Huws | |
|---|---|
| Ganwyd | Owen Pennant Hughes 25 Mawrth 1943 |
| Bu farw | 3 Mehefin 2025 Porthmadog |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | person busnes, cynghorydd |
| Cyflogwr | |
| Plant | Bleddyn Owen Huws |
Dyn busnes a chynghorydd sir o Gymru oedd Owen Pennant Huws (25 Mawrth 1943 – 3 Mehefin 2025)[1] neu O. P. Huws fel yr oedd yn cael ei adnabod.
Yn enedigol o Ddyffryn Ceiriog, aeth O.P. i fyw i Ddyffryn Nantlle yn ŵr ifanc.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Dechreuodd ymgyrchu dros Blaid Cymru ar ôl cael ei ysbrydoli gan un o gynghorwyr Dyffryn Nantlle, Wmffra Roberts.
Roedd yn gynghorydd Plaid Cymru dros ward Llanllyfni a Nantlle ar Gyngor Sir Gwynedd hyd at 2012.[2] Yn Hydref 2023, derbyniodd Wobr Cyfraniad Arbennig yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth. Cyflwynwyd y wobr gan ei gyfaill Alun Ffred, ac fe'i derbyniwyd gan ei fab, Bleddyn Owen Huws.[3]
Busnes
[golygu | golygu cod]Un o'i fusnesau cyntaf oedd Cywion Ieir Cartref lle'r oedd magu cyw ieir a thyrcwns yn eu miloedd ar ei fferm yn Nebo, Gwynedd.
Yn yr 1980au roedd yn gynhyrchydd teledu gyda chwmni Na-Nog, a gynhyrchodd y rhaglen boblogaidd Reslo ar gyfer S4C.[4]
Ar ddechrau'r 1990au sefydlodd Fideo Sain fel adran annibynnol o fewn Cwmni Recordiau Sain yn y 1990au. Bu Sain yn dosbarthu fideos o raglenni S4C ers canol yr 80au, ond gyda'r fenter newydd ychwanegwyd fideos gwreiddiol. Yn Fideo Sain y dechreuodd Wil Cwac Cwac a Guto Gwningen siarad Cymraeg ar fideo a DVD. Ym 1997, newidiwyd yr adran fideo'n adran aml-gyfryngol, gydag O.P. yn bennaeth arni. Yn 2007, fe ymddeolodd fel Pennaeth yr Adran Amlgyfrwng. Ymddiswyddodd fel cyfarwyddwr o Sain yn 2019.[5]
Roedd yn un o sefydlwyr Antur Nantlle yn 1992 ac ymddeolodd o'r bwrdd yn 2016. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Bragdy Lleu ym Mhenygroes rhwng 2013 a 2017.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn gyn-ŵr i Lis ac yn dad i dri o blant: Bleddyn, Gwenan ac Elin. Bu farw yn 82 mlwydd oed ar 3 Mehefin 2025, yng nghartref nyrsio Meddyg Care, Porthmadog.[6] Mewn teyrnged iddo, dywedodd Dafydd Iwan ei fod yn ddyn “llawn syniadau” oedd yn “awyddus iawn i ddatblygu unrhyw fath o fenter neu fusnes yn y gymuned.”[7]
Cynhaliwyd ei angladd ar ddydd Iau, 10 Gorffennaf 2025. Roedd gwasanaeth i'r teulu'n unig yn Amlosgfa Bangor wedi ei ddilyn gan wasanaeth coffa cyhoeddus yng Nghapel y Groes, Pen-y-groes, am 1:00 o'r gloch.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Ty'r Cwmnïau - Owen Pennant HUWS. Ty'r Cwmnïau. Adalwyd ar 16 Ionawr 2019.
- ↑ Nasareth i Bethlehem. BBC Cymru (18 Rhagfyr 2008). Adalwyd ar 15 Ionawr 2019.
- ↑ October 20 2023, Postiwyd ar; Yh, 4:07. "Gwobr i O.P!". Plaid Cymru Arfon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-05-27. Cyrchwyd 2024-05-27.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
- ↑ "luchacymru | Calon Gron". calongron.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-05.
- ↑ "O.P. Huws - Cof y Cwmwd". cof.canolfanuwchgwyrfai.cymru. Cyrchwyd 2025-06-04.
- ↑ "Hysbysiad marwolaeth Owen Pennant HUWS". funeral-notices.co.uk (Daily Post). 2025-06-11. Cyrchwyd 2025-06-23.
- ↑ "Y cenedlaetholwr a'r gŵr busnes O P Huws wedi marw'n 82 oed". Golwg360. 2025-06-04. Cyrchwyd 2025-06-04.