Y Blaenau
(Ailgyfeiriad oddi wrth Blaina)
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math |
tref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.7667°N 3.1667°W ![]() |
Cod OS |
SO1908 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Alun Davies (Llafur) |
AS/au | Nick Smith (Llafur) |
- Erthygl am dref ym Mlaenau Gwent yw hon; am y dref yng Ngwynedd gweler: Blaenau Ffestiniog.
Tref fechan ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent yn ne-ddwyrain Cymru yw'r Blaenau (Saesneg: Blaina). Saif ychydig i'r de o Nantyglo a Brynmawr ac i'r gogledd o Abertyleri ar bwys y plwyf hynafol o Aberystruth.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Alun Davies (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Nick Smith (Llafur).[1][2]
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwynn Parry Jones, canwr opera
- Mostyn Thomas, (Thomas James Thomas), canwr opera
- Arthur Fear, canwr opera
- Frank Richards (Francis Philip Woodruff), awdur
- David Watkins, chwaraewr rygbi
- Mike Ruddock,chwaraewr a hyfforddwr rygbi
Gwybodaeth arall[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 407 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 368 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 339 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 10.3% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[3]
|
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ The Changing Face of Wales - Welsh Speakers