Neidio i'r cynnwys

Biwro Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Llai eu Defnydd

Oddi ar Wicipedia
Biwro Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Llai eu Defnydd
Enghraifft o'r canlynolsefydliad anllywodraethol, sefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1982 Edit this on Wikidata
SylfaenyddSenedd Ewrop Edit this on Wikidata
OlynyddRhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolvereniging Edit this on Wikidata
PencadlysRhanbarth Brwsel-Prifddinas Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://eblul.eurolang.net/ Edit this on Wikidata
Baneri Promenâd Aberystwyth sy'n cynnwys baneri nifer o'r gwledydd a'r tiriogaethau a oedd yn cael eu cynrychioli gan EBLUL. Yma gwelir baneri Galisia, Catalwnia, a'r Basgtir

Sefydliad anllywodraethol oedd y Biwro Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Llai eu Defnydd (European Bureau for Lesser-Used Languages, EBLUL) a sefydlwyd i hybu amrywiaeth ieithyddol ac ieithoedd. Fe'i sefydlwyd ym 1982 a daeth i ben yn 2010. Roedd gan y sefydliad gysylltiadau agos â Senedd Ewrop a Chyngor Ewrop, ac fe'i hariannwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd a sefydliadau llywodraethol lleol a rhanbarthol. Roedd ganddo swyddfeydd ym Mrwsel a Dulyn.

Yn dilyn ei sefydlu ym 1982, gweithiodd y Biwro Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Llai eu Defnydd i gryfhau cysylltiadau a datblygu cydweithrediad rhwng cymunedau ieithyddol llai eu defnydd. Y prif nod oedd hybu amrywiaeth ieithyddol a chynnal yr ieithoedd hyn. Gweithredodd i hwyluso cysylltiadau a chyfathrebu â sefydliadau Ewropeaidd, Cyngor Ewrop, yr OSCE, y Cenhedloedd Unedig ac UNESCO. Siaradai ar ran y 50 miliwn o siaradwyr ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol yn Ewrop.

Daeth grant gweithredol EBLUL gan yr Undeb Ewropeaidd i ben yn 2007 er gwaethaf argymhellion gan Senedd Ewrop,[1] gan gynnwys Adroddiad Ebner 2003 a gwerthusiad yr Undeb Ewropeaidd ei hun a gynhaliwyd gan Ernst and Young y dylai’r Undeb barhau i gefnogi’r sefydliad. Mae’r toriad mewn cyllid yn parhau i fod yn ddadleuol oherwydd bod Adroddiad Ebner 2003,[2] adroddiad deddfwriaethol Senedd Ewrop, y mae’n rhaid i’r Undeb Ewropeaidd ei roi ar waith, yn argymell bod EBLUL yn parhau i dderbyn cyllid yr Undeb.

Fodd bynnag, gyda'r toriad yn ei gyllid craidd, caewyd EBLUL o'r diwedd gan benderfyniad ei fwrdd cyfarwyddwyr ar 27 Ionawr 2010. Y prif reswm a roddwyd oedd "nad oedd mecanwaith ariannu model sefydliadol o'r fath yn addas o dan yr amgylchiadau presennol."[3]

Ers hynny disodlwyd EBLUL gan y Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (ELEN)[4] y corff anllywodraethol Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd llai eu defnydd, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o gyn-aelodau EBLUL ynghyd â llawer mwy o sefydliadau cymdeithas sifil o bob rhan o Ewrop. Hyd yn hyn, mae ELEN yn cynrychioli 44 o ieithoedd gyda 60 o aelod-sefydliadau mewn 20 gwladwriaeth Ewropeaidd.[5]

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]

Ceir cyfeiriad ar EBLUL a sefydliadau eraill mewn cyflwyniad Cynllunio Ieithyddol: Tueddiadau Rhyngwladol 1993-2018 a wnaethpwyd gan yr Athro Colin H. Williams yn 2018. Nodir EBLUL fel un o'r sefydliadau rhwydweithio a grewyd er mwyn adfer ieithoedd.[6]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Microsoft Word - Multilingualism2part1.doc" (PDF). Europarl.europa.eu. Cyrchwyd 2017-01-12.
  2. "Report with recommendations to the Commission on European regional and lesser-used languages - the languages of minorities in the EU - in the context of enlargement and cultural diversity- Committee on Culture, Youth, Education, the Media and Sport - A5-0271/2003". Europarl.europa.eu. Cyrchwyd 2017-01-12.
  3. "EBLUL - European Bureau for Lesser-Used Languages - EBLUL Closing Statement". 2012-04-26. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-26. Cyrchwyd 2021-09-02.
  4. "ELEN | European Language Equality Network". Elen.ngo. Cyrchwyd 2017-01-12.
  5. "Framework Convention for the Protection of National Minorities" (PDF). Coe.int. Cyrchwyd 2017-01-12.
  6. Williams, Yr Athro Colin H. (2018), Cynllunio Ieithyddol: Tueddiadau Rhyngwladol 1993-2018, Iaith Cyf., https://www.iaith.cymru/uploads/general-uploads/Darlith_Eisteddfod_Iaith_2018_Colin_Williams.pdf
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.