Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad anllywodraethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2011 |
Rhagflaenydd | Biwro Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Llai eu Defnydd |
Ffurf gyfreithiol | international non-profit association |
Pencadlys | Karaez-Plougêr |
Rhanbarth | Penn-ar-Bed |
Gwefan | https://elen.ngo/ |
Mae’r Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (European Language Equality Network, ELEN) yn sefydliad anllywodraethol rhyngwladol sy’n weithgar ar lefel Ewropeaidd sy’n gweithio i warchod a hyrwyddo ieithoedd Ewropeaidd llai eu defnydd , hynny yw ieithoedd rhanbarthol, ieithoedd lleiafrifol, ieithoedd mewn perygl, ieithoedd cyd-swyddogol ac ieithoedd cenedlaethol cenhedloedd bychain. Mae gan ELEN 174 o aelod-sefydliadau yn cynrychioli 50 o ieithoedd mewn 25 gwladwriaeth. Mae pencadlys y sefydliad yn adeilad Ti ar Vro, 6 plasenn Gwirioù Mab-den, Karaez, Llydaw.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd ELEN ar ôl cau EBLUL, Biwro Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Llai eu Defnydd, sefydliad anllywodraethol â nodau tebyg a sefydlwyd ym 1982 ac a gaeodd yn 2010.
Cenadaethau
[golygu | golygu cod]Mae cenadaethau a gwaith y corff anllywodraethol yn perthyn i wahanol fathau o ymyrraeth:[2]
- gwaith lobïo wedi'i anelu at y prif sefydliadau rhyngwladol sy'n ymwneud ag amddiffyn hawliau dynol a chyfunol (Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd).[3] Mae ELEN yn cyflwyno’i hun fel llais y lleiafrifoedd lleiaf clywadwy (megis Llydaweg, Basgeg, Ocsitaneg, a Chatalaneg), yn arbennig drwy ddod â galwadau i gyrff etholedig fel Senedd Ewrop. Mae’r corff anllywodraethol hefyd yn gweithredu ar lefel leol, er enghraifft drwy gymryd rhan yn yr ymgyrch genedlaethol o blaid cadarnhau’r Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Ieithoedd Lleiafrifol yn Ffrainc,[4] drwy mynd i'r Cenhedloedd Unedig ag adroddiad yn gresynu at gwedd llywodraeth Sbaen tuag at leiafrifoedd heblaw'r Sbaeneg,[5][6] a thrwy gysylltu ei hun â phryderon amddiffynwyr ieithoedd lleiafrifol am ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.[7][8][9][10]
- cychwyn neu gymryd rhan mewn prosiectau monitro a gweithredu ar ieithoedd lleiafrifol.
Cyfrannodd ELEN yn arbennig at lansiad Protocol Gwarant Hawliau Ieithyddol Donostia,[11] sy’n rhestru mesurau pendant i sicrhau parch at hawliau ieithyddol yn Ewrop, yn ogystal â'r Prosiect Amrywiaeth Ieithyddol Digidol, prosiect ar gyfer creu a rhannu cynnwys digidol gan ddefnyddio ieithoedd lleiafrifol.[12]
ELEN a'r Gymraeg
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd cynhadledd 2022 y corff yng Nghymru[13][14]. Mae ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn mynychu'r cynadleddau,[14][15][16] ac mae Mudiadau Dathlu'r Gymraeg, Rhieni Dros Addysg Gymraeg, Cwmni Iaith, a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant hefyd yn aelodau o ELEN.[17]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol ELEN
- @EuropeanLanguageEqualityNetwork safle ELEN ar Facebook
- @EUROLANG presenoldeb ar X
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "ELEN". safle ELEN ar Facebook. Cyrchwyd 8 Awst 2024.
- ↑ Argouarch, Philippe. "Paul Molac : Il nous faut agir pour changer la Constitution avant l'élection présidentielle". Agence Bretagne Presse (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2021-11-08.
- ↑ Morgan, Sam (2016-06-09). "Language discrimination rife across EU". www.euractiv.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-08.
- ↑ "Row brews over French regional languages as country's upcoming EU council presidency ponders future of linguistic diversity". The Parliament Magazine (yn Saesneg). 2021-07-30. Cyrchwyd 2021-11-08.
- ↑ "Spain's "linguistic discrimination" debated in the European Committee on Civil Liberties for the first time". Catalan News Agency. 17 March 2016. Cyrchwyd 22 March 2017.
- ↑ "International Manifesto in Support of Catalonia's Right to Freedom as a People - The Bullet". Socialist Project (yn Saesneg). 2021-05-31. Cyrchwyd 2021-11-08.
- ↑ Ó Caollaí, Éanna (22 June 2016). "Brexit a 'potential disaster' for minority languages". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-08.
- ↑ Sonnad, Nikhil. "Brexit may threaten the many minority languages of Britain". Quartz (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-08.
- ↑ "Brexit "disastrous" for Gaelic and Scots languages, warns European-wide campaigners". HeraldScotland (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-08.
- ↑ "Brexit Could Devastate Celtic Languages". Language Magazine (yn Saesneg). 2019-12-06. Cyrchwyd 2021-11-08.
- ↑ "Le Protocole de Donostia est déjà une réalité : les mesures permettant de concrétiser les droits linguistiques seront prêtes pour le 17 décembre". Protocol to Ensure Language Rights (yn Ffrangeg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-22. Cyrchwyd 22 March 2017.
- ↑ "Who | The Digital Language Diversity Project". Digital Language Diversity Project. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 November 2021. Cyrchwyd 2021-11-08.
- ↑ "Cynulliad Cyffredinol ELEN Caerdydd 2022: cadw Cymru ynghwlm ag Ewrop". ELEN (yn Saesneg). 2022-10-20. Cyrchwyd 2024-08-21.
- ↑ 14.0 14.1 "Pobl ifanc yn poeni am ddyfodol ieithoedd lleiafrifol". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-21. Cyrchwyd 2024-08-21.
- ↑ "Dadlau'r achos dros Ddeddf Eiddo ar lwyfan rhyngwladol | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". cymdeithas.cymru. Cyrchwyd 2024-08-21.
- ↑ "Pictures". ELEN (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-21.
- ↑ "Members". ELEN (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-21.