Bethan Gwanas
Bethan Gwanas | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 16 Ionawr 1962 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | awdur, newyddiadurwr ![]() |
Awdures boblogaidd sy'n ysgrifennu yn Gymraeg yw Bethan "Gwanas" Evans (ganed 16 Ionawr 1962). Daeth i amlygrwydd yn bennaf yn sgil llwyddiant addasiad teledu o'i nofel am dîm rygbi merched, Amdani!. Mae'n ysgrifennu i oedolion, i blant ac i ddysgwyr ac wedi cyhoeddi dros 28 o weithiau.[1] Mae hefyd wedi bod yn gwneud gwaith teledu, gan gynnwys cyflwyno "Byw yn yr Ardd", "Tyfu Pobl" a "Gwanas i Gbara" ar S4C.
Cefndir[golygu | golygu cod]

Fe'i magwyd ar fferm Gwanas yn y Brithdir, ger Dolgellau. Tra'n ifanc, roedd hi'n hoff o ddarllen; dywedai mai Enid Blyton oedd un o'i hoff awduron tra'n blentyn. Wedi'i haddysgu yn Ysgol y Gader, Dolgellau, aeth ymlaen i raddio mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ym 1985 enillodd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd, pan oedd yn athrawes Saesneg gyda VSO yn Nigeria. Wedi dwy flynedd gyda Radio Cymru aeth i Fangor i wneud cwrs ymarfer dysgu, ac yna dysgu Ffrangeg yn Ysgol Tryfan ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Symudodd ymlaen i fod yn ddirprwy bennaeth Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, ac yna'n hyrwyddwr llenyddiaeth i Gyngor Gwynedd. Yn 2003, daeth yn awdures llawn amser.[2]
Ei chefndir proffesiynol[golygu | golygu cod]
Cyhoeddwyd ei llyfrau cyntaf, sef nofel Amdani! a Dyddiadur Gbara, cofnod ffeithiol o'i phrofiadau o weithio gyda VSO yn Nigeria, ym 1997. Ers hynny, mae llawer o'i gweithiau wedi'u darlledu ar y radio ac ar y teledu, ac addaswyd ei nofel Amdani! yn gyfres deledu ar S4C. Bethan ysgrifennodd y tair cyfres gyntaf. Yn sgil llwyddiant Amdani! ysgrifennwyd drama lwyfan hefyd (a ysgrifennwyd gyda Script Cymru, ac a oedd yn cynnwys cerddoriaeth a chaneuon). Derbyniodd Sgript Cymru Wobr Datblygiad Cynulleidfa ACW am waith trwy gyfrwng y Gymraeg.
Enillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith am Ffuglen Gorau'r Flwyddyn sef Llinyn Trôns a Sgôr). Dyfernir y wobr hon yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Cyrhaeddodd ei nofel Hi Yw fy Ffrind y rhestr fer ar gyfer Llyfr y Flwyddyn yn 2005.
Hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa T. Llew Jones yn 2013.
Mae un o'i nofelau plant mwyaf poblogaidd Pen dafad wedi ei chyfieithu i'r Saesneg dan yr enw Ramboy, a'i nofel oedolion Gwrach y Gwyllt i Sorbeg Uchaf.
Yng Ngorffennaf 2017 daeth yn Olygydd Projectau arbennig i oedolion ifanc gyda Gwasg Gomer.[3]
Gwaith Cyhoeddedig[golygu | golygu cod]
Teitl | Blwyddyn | Nodiadau |
---|---|---|
Amdani! | 1997 | ei llyfr cyntaf dan yr enw Bethan Evans; nofel am dîm rygbi merched, a ddaeth yn gyfres deledu lwyddiannus ar S4C |
Dyddiadur Gbara | 1997 | ei hanes gyda VSO yn Nigeria |
Bywyd Blodwen Jones | 1999 | y cyntaf yng nghyfres Blodwen Jones; nofel i ddysgwyr |
Llinyn Trôns | 2000 | enillydd Gwobr Tir na n-Og, y wobr am nofelau i bobl ifanc; rhan o'r maes llafur TGAU |
Blodwen Jones a'r Aderyn Prin | 2001 | ail lyfr yn y gyfres Blodwen Jones |
Popeth am ... Gariad | 2001 | addasiad o Coping with Love gan Peter Corey |
Sgôr | 2002 | cyd-ysgrifennwyd â disgyblion ysgol uwchradd; enillydd Gwobr Tir na n-Og |
Byd Bethan | 2002 | casgliad o golofnau papur newydd |
Tri Chynnig i Blodwen Jones | 2003 | y llyfr olaf yn y gyfres Blodwen Jones |
Ceri Grafu | 2003 | rhan o'r gyfres Pen Dafad wedi'i anelu at bobl ifanc |
Gwrach y Gwyllt | 2003 | hanes gwrach ifanc yn dychwelyd i fro ei mebyd i ddial am gam a wnaethpwyd â hi yn y gorffennol. |
Ar y Lein | 2004 | llyfr yn cyd-fynd â'r gyfres deledu lle mae hi'n teithio'r byd |
Hi Yw fy Ffrind | 2004 | ar restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2005 |
Mwy o Fyd Bethan | 2005 | ail gasgliad o golofnau papur newydd |
Pen Dafad | 2005 | rhan o gyfres Pen Dafad wedi'i anelu at bobl ifanc |
Hi Oedd fy Ffrind | 2006 | dilyniant i Hi Yw fy Ffrind |
Ar y Lein Eto | 2006 | i gyd-fynd â'r gyfres deledu |
Os Mêts ... | 2007 | nofel Stori Sydyn |
Y Gwledydd Bychain | 2008 | llyfr ffeithiol hawdd ei ddarllen yn y gyfres Stori Sydyn yn cymharu Cymru, Llydaw a Norwy. |
Ar y Lein Eto Fyth! | 2008 | y llyfr olaf am ei theithiau gyda S4C |
Ramboy | 2009 | cyfieithiad Saesneg o Pen Dafad |
Yn Ôl i Gbara | 2010 | dilyniant i Dyddiadur Gbara |
Dwy Stori Hurt Bost | 2010 | dwy stori ar gyfer darllenwyr 10-14 oed |
Hanas Gwanas | 2012 | hunangofiant |
Llwyth | 2013 | nofel ffantasi i'r arddegau |
I Botany Bay | 2015 | nofel hanesyddol |
Bryn y Crogwr | 2015 | nofel Stori Sydyn |
Efa | 2017 | Cyfres y Melanai |
Y Diffeithwch Du | 2018 | Cyfres y Melanai |
Yn ei Gwsg | 2018 | Cyfres Amdani |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan Llenyddiaeth Cymru; Archifwyd 2014-03-02 yn y Peiriant Wayback. Proffil; adalwyd 25 Mawrth 2014
- ↑ Oriel yr Enwogion: Bethan Gwanas. BBC Lleol (Adalwyd 10-04-2009).
- ↑ Gwasg Gomer yn “hollol dawel” eu meddwl. Golwg360 (21 Gorffennaf 2017).