Benjamin Hoadly

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Benjamin Hoadly
Benjamin Hoadly by Sarah Hoadly.jpg
Ganwyd 14 Tachwedd 1676 Edit this on Wikidata
Westerham Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Ebrill 1761 Edit this on Wikidata (84 oed)
Chelsea Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth offeiriad Edit this on Wikidata

Clerigwr Anglicanaidd o Sais a fu'n Esgob Bangor ac yn ddiweddarach yn esgob mewn nifer o esgobaethau yn Lloegr oedd Benjamin Hoadly, weithiau Benjamin Hoadley (14 Tachwedd 167617 Ebrill 1761).

Addysgwyd ef yng Ngoleg y Santes Catrin, Caergrawnt. Ordeiniwyd ef yn 1701 a bu'n rheithor St. Peter-le-Poor, Llundain, o 1704 hyd 1724. Daeth yn gaplan i Sior I.

Esgob Bangor[golygu | golygu cod y dudalen]

Apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor yn 1716. Ef oedd y cyntaf mewn olyniaeth o esgobion Seisnig a barhaodd hyd 1890.

Bu cryn anghydfod a dicter ymhlith y Cymry pan glywyd fod Sais wedi cael ei apwyntio yn Esgob Bangor. Teithiodd Hoadly ar hyd yr A5 hyd at Amwythig gyda'r bwriad o gymryd meddiant o'i esgobaeth newydd. Pan sylweddodd Cymry'r dref honno ei fod yno, daeth torf ohonynt at ei gilydd a rhwystrwyd cerbyd Hoadly ar y bont sy'n croesi Afon Hafren. Bu'n rhaid iddo droi yn ei ôl a dywedir er iddo ddal y swydd am gyfnod o chwe blynedd ni osododd ei droed i lawr gymaint ag unwaith yn ei esgobaeth. Cymaint oedd y casineb tuag ato fel y bu bron iawn i brelad Gwyddelig gael ei gamdrin yn gorfforol gan dorf ym Mangor pan ddigwyddai fynd trwy'r ddinas ar ei ffordd i Gaergybi ar ôl i rywun feddwl mai Broadly oedd ef.[1]

"Y Ddadl Fangoraidd"[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1717, dechreuodd ei bregeth ar "Natur Teyrnas Crist" yr hyn a elwir Y Ddadl Fangoraidd yn Eglwys Loegr. Yn ddiweddarach, symudwyd ef i dair esgobaeth yn Lloegr. Darluniwyd ef gan William Hogarth (1697-1764) pan oedd yn Esgob Caerwynt tua 1743.

Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • A Defence of the Reasonableness of Conformity (1707)
  • A Plain Account of the Nature and End of the Sacrament of the Lord's Supper (1735)
  • The Repeal of the Corporation and Test Acts (1736)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • William Gibson: Enlightenment Prelate: Benjamin Hoadly, 1676-1761. Caergrawnt, 2004, ISBN 978-0-227-67978-4.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Glan Menai", 'Y prif ddigwyddiadau hanesyddol yn dwyn perthynas â Bangor a'r gymdogaeth', Trafodion Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890 (Isaac Foulkes, Lerpwl, 1892), tud, 180.