Ben Bowen
| Ben Bowen | |
|---|---|
| Ganwyd | 1878 Treorci |
| Bu farw | 16 Awst 1903 Ton Pentre |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | bardd |
| Perthnasau | Euros Bowen |
Bardd Cymraeg oedd Ben Bowen (1878 - 16 Awst 1903).[1] Er iddo farw yn ddim ond bedair ar hugain oed, ystyriwyd ef yn fardd addawol iawn gan ei gyfoeswyr[1] ac roedd ei farwolaeth cynnar yn destun galar cyhoeddus ymysg ei gyd-Gymru.[2] Roedd yn enghraifft o'r Bardd Newydd.[3][4]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed ef yn Nhreorci, yn fab i Thomas a Dinah Bowen. Aeth i weithio fel glöwr yn weddol ieuanc, a dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth a chystadlu mewn eisteddfodau lleol.
Gadawodd y pwll glo yn 1897 er mwyn astudio ar gyfer y weinidogaeth gyda'r Bedyddwyr. Aeth i Brifysgol Caerdydd, ond oherwydd afiechyd, ni allodd orffen ei flwyddyn gyntaf. Daeth yn ail am y goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1900, gyda phryddest ar y testun "Pantycelyn". Codwyd tysteb iddo fynd i Dde Affrica i geisio gwella ei iechyd yn 1901 a 1902. Parhaodd ei iechyd i ddirywio wedi iddo ddychwelyd, a bu farw yn 1903.
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Er ei fod wedi tramgwyddo rhai wrth gyhoeddi ei erthyglau dadleuol, roedd ei farwolaeth ifanc yn destun cryn dristwch a galar ymysg ei gyfoedion: mynychwyd ei angladd gan filoedd er gwaethaf glaw trwm y diwrnod hwnnw.[2] Roedd ei farddoniaeth wedi ennill gwobrau iddo mewn rhai eisteddfodau lleol[1] ond nid enillodd yr un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol, er iddo ymgeisio am y Goron yn 1900,[1] y Gadair yn 1901 a 1902[5] a gadael awdl anorffenedig ar 'Y Celt' (testun Cadair 1903) ar ei ôl wedi iddo farw.[6] Serch hynny, adeg ei farwolaeth rhagwelodd rhai y byddai'n ymuno â rhengoedd anfarwolion barddoniaeth.[7]
Bu Bowen ei hun yn ymwybodol o'i iechyd bregus, ac yn fodlon manteisio ar y ddelwedd ohono fel ffigwr trasig, er enghraifft drwy gymharu ei hun i â'r bardd Golyddan. Mae ei waddol ysgrifenedig yn tystio i ffydd sylweddol yn ei allu ef ei hun fel bardd.[8] Fodd bynnag, yn wahanol i feirdd Cymraeg eraill fu farw'n ifanc, megis Golyddan, Ann Griffiths, Gwenffrwd a Hedd Wyn, ychydig o barch sydd i farddoniaeth Ben Bowen erbyn heddiw. Mae'r astudiaeth academaidd fwyaf sylweddol o'i fywyd a'i waith yn dadlau bod stori ei fywyd a'r "cwlt" o'i amgylch o fwy o ddiddordeb na'i waith fel bardd.[9] Roedd yn enghraifft o'r Bardd Newydd, mudiad yr ystyrir ei gynnyrch o ychydig iawn o werth llenyddol erbyn heddiw.[10][11] Er bod ei gofnod yn y Bywgraffiadur (a luniwyd gan ei nai, Ben Bowen Thomas) yn hawlio bod rhai o'i awdlau a phryddestau o "safon uchel" mae'n cyfaddef fod "ffurfiau llenyddol ac egwyddorion artistig y 19eg ganrif" wedi "[cyfyngu] arno fel bardd".[1] Er gwaethaf diddordeb ei fywyd ac ymateb y byd Cymreig iddo, fel bardd roedd yn "mediocre poet of immoderate self-belief" chwedl T. Robin Champman.[9]
Teulu
[golygu | golygu cod]Roedd Ben Bowen yn perthyn i nifer o feirdd Cymraeg diweddarach. Roedd ei frawd hŷn, David Bowen (Myfyr Hefin) (1874-1955) yn fardd ond ei gyfraniad mwyaf oedd golygu a chyhoeddi gwaith Ben Bowen mewn pum cyfrol dros gyfnod o ddegawdau (gweler Llyfryddiaeth isod); roedd ganddo 'obsesiwn' â chyrhaeddiadau ei frawd a threfnodd gosod plac ar ei dŷ a chofeb marmor ar ei fedd. Defnyddiodd yr elw o werthu gweithiau ei frawd i gynnal ysgoloriaeth yn ei enw yng Ngholeg Harlech.[2] Bu aelod arall o'r teulu, Ben Bowen Thomas (1899-1977), sef nai Ben Bowen (merch ei chwaer), yn warden yr un coleg; daeth yn ddiweddarach yn bennaeth Prifysgol Cymru.[12]
Brawd arall i Ben Bowen a Myfyr Hefin oedd Thomas Bowen; daeth yntau yn dad i ddau o brifeirdd yr 20g sef Euros Bowen (1904-1988) a Geraint Bowen (1915-2011).[12]
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Chapman, T. Robin (2003). Ben Bowen (Writers of Wales). Gwasg Prifysgol Cymru.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd nifer o gasgliadau o'i waith dan olygyddiaeth ei frawd, Myfyr Hefin:
- Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen (1904)
- Rhyddiaith Ben Bowen (1909)
- Blagur Awen Ben Bowen (1915)
- Ben Bowen yn Neheudir Affrica (1928). Ei ddydiadur.
- Ben Bowen i'r Ifanc (1928).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "BOWEN, BEN (1878 - 1903), efrydydd a bardd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Chapman, t. 3.
- ↑ Tom Parry, "Y Bardd Newydd Newydd", Y Traethodydd 1939, 94(8) tt.169-178.
- ↑ Chapman, t. 57.
- ↑ Chapman, t. 54.
- ↑ Chapman, t. 67.
- ↑ Chapman, t. 6-7.
- ↑ Chapman, t. 7.
- ↑ 9.0 9.1 Chapman, t. 5.
- ↑ Rhys, Robert "Llenyddiaeth Gymraeg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg" yn Geraint Jenkins (gol.) (1999) Gwnewch Bopeth yn Gymraeg, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.261
- ↑ Alun Llywelyn-Williams, "Y Bardd Newydd" yn Dyfnallt Morgan (gol.), Gwŷr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, 1968. t268, 277.
- ↑ 12.0 12.1 "BOWEN, DAVID ('Myfyr Hefin '; 1874 - 1955), gweinidog (B) a golygydd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.