Barriff Mawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
GreatBarrierReef-EO.JPG
Llun lloeren o'r Barrif Mawr
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolcoral reef Edit this on Wikidata
LleoliadTownsville Edit this on Wikidata
Enw brodorolGreat Barrier Reef Edit this on Wikidata
GwladwriaethAwstralia Edit this on Wikidata
RhanbarthCairns, Queensland Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gbrmpa.gov.au/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y Barriff Mawr,[1] hefyd Bariff Mawr (Saesneg: Great Barrier Reef) yw'r system riff cwrel mwyaf yn y byd, gyda 2,900 o riffiau unigol a 900 o ynysoedd. Mae gan Ardal Treftadaeth y Byd y Barriff Mawr, arwynebedd o dros 2,300 cilometr sgwâr (1,400 mi) o fewn ardal o tua 344,400 cilometr sgwâr (133,000 mi sgw)[2]. Saif yn y Môr Cwrel ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Awstralia, i'r dwyrain o dalaith Queensland. Mae'n ymestyn o ynysoedd Lady Elliott ger arfordir de Queensland hyd Gwlff Papua, pellter o fwy na 2,000 km. Daw o fewn 30 km i'r arfordir ger Cairns, tra mae tua 250 km o'r arfordir ger Gladstone.

Mae pobloedd Cynfrodorol Awstralia ac Ynysoedd y Torres Strait wedi bod yn gyfarwydd â'r Barriff Mawr ac yn ei ddefnyddio ers amser maith, ac mae'n rhan bwysig o ddiwylliant ac ysbrydolrwydd grwpiau lleol.

Gellir gweld y Barriff Mawr o'r gofod, a dyma strwythur sengl mwyaf y byd a wnaed gan organebau byw.[3] Crewyd strwythur y barriff hwn allan o biliynau o organebau bach, a elwir yn "polypau cwrel".[4] Mae'n fagwrfa i amrywiaeth eang o fywyd ac fe'i dewiswyd yn Safle Treftadaeth y Byd ym 1981.[5][6] Labelwyd y barriff gan CNN yn un o "Saith Rhyfeddod Naturiol y Byd" ym 1997.[7]

Y Barriff Mawr yw atyniad twristaidd mwyaf Awstralia, a threfnir teithiau o drefi megis Cairns a Townsville i'w weld. Dyma gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid, yn enwedig yn rhanbarthau Ynysoedd Whitsunday a'r Cairns, gan gynhyrchu dros AUD $3 biliwn y flwyddyn.[8] Yn Nhachwedd 2014, lansiodd "Google Underwater Street View" mewn 3D o'r Barriff Mawr.[8][9]

Mae rhan fawr o'r barriff wedi'i gwarchod gan Barc Morol y Barriff Mawr, sy'n helpu i gyfyngu ar effaith defnydd dynol, fel pysgota a thwristiaeth. Mae pwysau amgylcheddol eraill ar y riff a'i ecosystem yn cynnwys dŵr ffo, newid hinsawdd ynghyd â channu (neu wynnu) torfol, dympio carthion ac achosion poblogaeth gylchol o sêr môr coron y drain (Acanthaster planci).[10] Yn ôl astudiaeth a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2012 gan Trafodion yr Academi Wyddorau Genedlaethol, mae'r Barriff Mawr wedi colli mwy na hanner ei cwrel ers 1985, canfyddiad a gadarnhawyd mewn astudiaeth yn 2020 a ganfu fod dros hanner gorchudd cwrel y barriff wedi marw rhwng 1995 a 2017.[11][12] Mae Deddf Parc Morol y Barriff Mawr 1975 (adran 54) yn mynnu cyhoeddi bob pum mlynedd Adroddiad Rhagolwg ar iechyd, pwysau a dyfodol y barriff.[13]

Dynododd UNESCO y Barriff Mawr yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1981.

Daeareg[golygu | golygu cod y dudalen]

Crëyr , yn Ne'r Barriff Mawr

Mae tectoneg platiau yn dangos bod Awstralia wedi symud tua'r gogledd ar gyfradd o 7 cm (2.8 modfedd) y flwyddyn, gan ddechrau yn ystod y Cainosöig.[14][15] Profodd Dwyrain Awstralia gyfnod o godiad tectonig, a symudodd y rhaniad draenio yn Queensland 400 km (250 milltir) i mewn i'r tir. Hefyd yn ystod yr amser hwn, profodd Queensland ffrwydradau folcanig a arweiniodd at losgfynyddoedd canolog a tharian a llifoedd basalt.[16] Datblygodd rhai o'r rhain yn ynysoedd uchel. Ar ôl i'r Basn Môr Coral ffurfio, dechreuodd riffiau cwrel dyfu yn y Basn, ond tan tua 25 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd gogledd Queensland yn dal i fod mewn dyfroedd tymherus i'r de o'r trofannau - yn rhy cŵl i gynnal twf cwrel.[17] Mae hanes datblygu'r Barriff Mawr yn gymhleth; ar ôl i Queensland symud i ddyfroedd trofannol, dylanwadwyd arno gan dwf a dirywiad y Barriff wrth i lefel y môr newid.[18]

O 20,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP) tan 6,000 o flynyddoedd yn ôl, cododd lefel y môr yn gyson ledled y byd. Wrth iddo godi, gallai'r cwrelau wedyn dyfu'n uwch ar gyrion tanddwr bryniau gwastadedd yr arfordir. Erbyn tua 13,000 CP roedd lefel y môr ddim ond 60 metr (200 tr) yn is na'r hyn ydyw heddiw, a dechreuodd cwrelau amgylchynu bryniau gwastadedd yr arfordir, a oedd, erbyn hynny, yn ynysoedd cyfandirol. Wrth i lefel y môr godi ymhellach fyth, cafodd y rhan fwyaf o ynysoedd y cyfandir eu boddi. Yna gallai'r cwrelau gordyfu'r bryniau tanddwr, i ffurfio'r cilfachau a'r riffiau presennol. Nid yw lefel y môr yma wedi codi'n sylweddol yn ystod y 6,000 o flynyddoedd diwethaf.[19] Gellir gweld olion barriff hynafol tebyg i'r Barriff Mawr yn The Kimberley, Gorllewin Awstralia.[20]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 110.
  2. Mae gan Ardal Treftadaeth y Byd y Barriff Mawr arwynebedd o 348,000km, a 2,900 o riffiau unigol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys y bariffiau a geir yn y Torres Strait, sydd ag arwynebedd o tua 37,000 km a 750 o riffiau a heigiau pysgod posibl. Hopley, Smithers & Parnell 2007, t. 1
  3. Sarah Belfield (8 Chwefror 2002). "Great Barrier Reef: no buried treasure". Geoscience Australia (Australian Government). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Hydref 2007. Cyrchwyd 11 Mehefin 2007.
  4. Sharon Guynup (4 Medi 2000). "Australia's Great Barrier Reef". Science World. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 11 Mehefin 2007.
  5. UNEP World Conservation Monitoring Centre (1980). "Protected Areas and World Heritage – Great Barrier Reef World Heritage Area". Department of the Environment and Heritage. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mai 2008. Cyrchwyd 14 Mawrth 2009.
  6. "The Great Barrier Reef World Heritage Values". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mai 2013. Cyrchwyd 3 September 2008.
  7. "The Seven Natural Wonders of the World". CNN. 1997. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Gorffennaf 2006. Cyrchwyd 6 Awst 2006.
  8. 8.0 8.1 Access Economics Pty Ltd (2005). "Measuring the economic and financial value of the Great Barrier Reef Marine Park" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 29 Ebrill 2013. Cyrchwyd 2 March 2013.
  9. "Google Launches Underwater Street View". 16 Tachwedd 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Tachwedd 2014.
  10. Smee, Ben (20 February 2019). "Great Barrier Reef authority gives green light to dump dredging sludge". The Guardian. ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 February 2019. Cyrchwyd 21 Chwefror 2019.
  11. Eilperin, Juliet (1 October 2012). "Great Barrier Reef has lost half its corals since 1985, new study says". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 February 2019. Cyrchwyd 1 Hydref 2012.
  12. Amy Woodyatt. "The Great Barrier Reef has lost half its corals within 3 decades". CNN (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-17.
  13. "Great Barrier Reef Outlook Report 2019". Great Barrier Reef Marine Park Authority (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 November 2019.[dolen marw]
  14. Davies, P.J., Symonds, P.A., Feary, D.A., Pigram, C.J. (1987). "Horizontal plate motion: a key allocyclic factor in the evolution of the Great Barrier Reef". Science 238 (4834): 1697–1700. Bibcode 1987Sci...238.1697D. doi:10.1126/science.238.4834.1697. PMID 17737670.
  15. :18
  16. :19
  17. :26
  18. :27–28
  19. Tobin, Barry (2003) [revised from 1998 edition]. "How the Great Barrier Reef Was Formed". Australian Institute of Marine Science. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Medi 2010. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2006.
  20. Western Australia's Department of Environment and Conservation (2007). "The Devonian 'Great Barrier Reef'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 September 2007. Cyrchwyd 12 March 2007.