Baner Ynysoedd Solomon
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol ![]() |
Lliw/iau | glas, gwyrdd, melyn, gwyn ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 18 Tachwedd 1977 ![]() |
![]() |
Mabwysiadwyd baner Ynysoedd Solomon ar 18 Tachwedd, 1977, blwyddyn ar ôl ennill hunanlywodraeth ond blwyddyn cyn ennill annibyniaeth ar y Deyrnas Unedig. Caiff ei rhannu'n groesgornel gan streipen felen sy'n cynrychioli heulwen yr ynysoedd. Mae'r ddau driongl a ffurfir gan y streipen yn las a gwyrdd i gynrychioli dŵr a thir. Yn wreiddiol, bu'r pum seren wen yn cynrychioli pum rhandir y wlad. Yn hwyrach rhannwyd yr ynysoedd yn saith rhandir felly newidiwyd symbolaeth y sêr i gyfeirio at y pum prif grŵp o ynysoedd.
Ffynonellau[golygu | golygu cod]
- Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)