Baner Ynysoedd Cook

Oddi ar Wicipedia
Baner Ynysoedd Cook

Baner o faes glas gyda Baner yr Undeb yn y canton a chylch o bymtheg o sêr yn y fly yw baner Ynysoedd Cook. Cynrychiola'r sêr bymtheg prif ynys y diriogaeth; fe'u gosodir mewn cylch i ddangos bod pob ynys yr un mor bwysig a'i gilydd. Daw'r ysbrydoliaeth am ddyluniad y faner o gysylltiadau'r ynysoedd gyda'r Gymanwlad (mae Ynysoedd Cook yn rhan o Deyrnas Seland Newydd).

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Teyrnas Seland Newydd o'r Saesneg "Realm of New Zealand". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.