Morys Clynnog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Athravaeth Gristnogavl)
Jump to navigation Jump to search
Morys Clynnog
Ganwyd 1525 Edit this on Wikidata
Clynnog Fawr Edit this on Wikidata
Bu farw 1581 Edit this on Wikidata
Achos: drowning Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth offeiriad Catholig Edit this on Wikidata

Roedd Morys Clynnog (neu Morys ab Ifan, c. 1525 - 1581) yn glerigwr ac yn ddiwinydd Catholig gyda'r pwysicaf ymhlith y Gwrthddiwygwyr Cymreig.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debyg iddo gael ei eni yn ardal Clynnog Fawr yn Arfon, Gwynedd. Addysgwyd ef yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, gan raddio ym 1548. Bu'n gaplan i'r Cardinal Reginald Pole am gyfnod. Fe'i penodwyd yn Esgob Bangor ar farwolaeth William Glyn ym 1558, ond cyn iddo gael ei gysegru bu farw'r Frenhines Mari I o Loegr. Nid oedd Morys Clynnog yn barod i gydnabod awdurdod y frenhines newydd, Elizabeth I, mewn materion crefyddol; fe aeth i'r cyfandir yng nghwmni ei nai, Gruffydd Robert, ac ymgartrefu yn Rhufain.

Gwnaed Morys Clynnog yn warden yr Ysbyty Seisnig yn Rhufain ym 1577, a phan sefydlwyd Athrofa Gatholig yno y flwyddyn ddilynol gan Owen Lewis a William Allen, dewiswyd Morys Clynnog i fod yn rheithor arno. Bu raid iddo ymddeol o'r swydd hon ym 1579 wedi i'r myfyrwyr Seisnig gwyno ei fod yn ffafrio'r Cymry.

Credir iddo foddi yn gynnar ym 1581 yn ystod mordaith o Ffrainc yn ôl i Brydain.

Yr Athravaeth Gristnogavl a'r Dosparth Byrr[golygu | golygu cod y dudalen]

Clawr Athravaeth Gristnogavll argraffwyd ym Milan (1568).

Ym 1568, ym Milan, fe argraffwyd yr Athravaeth Gristnogavl ('Athrawaeth Gristnogawl'), sef catecism byr, gyda'r rhagymadrodd wedi ei ysgrifennu gan Gruffydd Robert. Ni wybuwyd dim o'r llyfr hwn hyd nes i Louis Lucien Bonaparte, nai i Napoleon I, Ymerawdwr Ffrainc, gyhoeddi fod copi yn ei feddiant yr oedd ef wedi ei brynu ym Mharis. Louis Lucien hefyd a drawslythrennodd y gwaith ar gyfer Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a chaniatáu iddynt ei gyhoeddi ym 1880.[1] Mae'r ddwy ran gyntaf o ramadeg Gruffydd Robert, Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg yn arfer ffurf ymgom mewn gwinllan rhwng Gr. (sef Gruffydd Robert ei hun) a Mo. (Morys Clynnog).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 4 Rhagfyr 2014