Neidio i'r cynnwys

Athelstan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Athelstan, brenin Lloegr)
Athelstan
Bedd Athelstan
Ganwydc. 895 Edit this on Wikidata
Wessex Edit this on Wikidata
Bu farw27 Hydref 939, 26 Hydref 939 Edit this on Wikidata
Caerloyw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWessex, Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr Edit this on Wikidata
TadEdward yr Hynaf Edit this on Wikidata
MamEcgwynn Edit this on Wikidata
PlantHaakon the Good Edit this on Wikidata
LlinachTeyrnas Wessex Edit this on Wikidata

Brenin Lloegr o 924/925 hyd 939 oedd Athelstan neu Æthelstan (Hen Saesneg: Æþelstan, Æðelstān) (tua 89527 Hydref 939). Roedd yn fab i'r brenin Edward yr Hynaf, a nai i Æthelflæd o Mersia.

Yn 937, gorchfygodd Aethelstan fyddin cynghrair rhwng Olaf III Guthfrithson, brenin Llychlynwyr Dulyn (Gwŷr Dulyn), Causantín mac Áeda II, brenin yr Alban ac Owain I, brenin Ystrad Clud ym Mrwydr Brunanburh. Yn dilyn ei fuddugoliaeth, defnyddiai'r teitl r[ex] tot[ius] B[ritanniae] ("brenin holl Brydain"). Bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac olynwyd ef gan ei hanner-brawd, Edmund.

Ymddengys i holl frenhinoedd Cymru gydnabod awdurdod Athelstan. Dilynodd Hywel Dda bolisi o gyfeillgarwch gydag Athelstan, a chofnodir iddo ymweld a llys Athelstan nifer o weithiau. Arwyddodd nifer o ddogfennau gydag Athelstan, ac mewn rhai ohonynt disgrifir ef fel subregulus neu "is-frenin". Bu raid i Idwal Foel o Wynedd dalu teyrnged i Aethelstan hefyd. Yn dilyn marwolaeth Athelstan, cododd Idwal a'i frawd Elisedd mewn gwrthryfel yn erbyn y Saeson, ond lladdwyd y ddau mewn brwydr yn 942.

Dywedir i Athelstan yrru'r Cernywiaid o Gaerwysg, ac yn 936, nodir iddo osod Afon Tamar fel ffin orllewinol Wessex.

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.