Olaf III Guthfrithson
| Olaf III Guthfrithson | |
|---|---|
| Ganwyd | 9 g |
| Bu farw | 941 Efrog |
| Galwedigaeth | teyrn |
| Swydd | brenin Northumbria |
| Tad | Gofraid ua Ímair |
| Plant | Cammán mac Amlaíb |
| Llinach | Uí Ímair |
Brenin Teyrnas Dulyn o 934 hyd 941 oedd Olaf III Guthfrithson (Gwyddeleg: Amlaíb mac Gofraid) (bu farw 941).
Roedd yn aelod o deulu brenhinol Teyrnas Dulyn, yr Uí Ímair, ac yn fab i'r brenin Gofraid ua Ímair, a fu'n frenin Dulyn a Jorvik (Efrog heddiw) hyd nes i Athelstan, brenin Lloegr gipio Efrog oddi arno yn 927.
Priododd Olaf a merch Cystennin II, brenin yr Alban, a gwnawth gynghrair ag Owain I, brenin Ystrad Clud. Yn 937, Olaf oedd arweinydd byddin y tri cyngheiriad yn erbyn Athelstan ym Mrwydr Brunanburh, ond gorchfygwyd ef gan Athelstan.
Wedi marwolaeth Athelstan yn 939, llwyddodd Olaf i adennill Jorvik oddi ar ei olynydd, Edmund, gan ddod a Northumbria a rhan o Mersia dan ei awdurdod. Bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac olynwyd ef gan Olaf Cuaran.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- The Columbia Encyclopedia, Sixth Edition. 2001. [1] Archifwyd 2008-10-07 yn y Peiriant Wayback
| Rhagflaenydd: Gofraid ua Ímair |
Brenin Dulyn 934–941 |
Olynydd: Sigtrygg (Sihtric) |
| Rhagflaenydd: Athelstan |
Brenin Northumbria 939–941 |
Olynydd: Amlaíb Cuaran |