Asid asetig
| Delwedd:Acetic acid 200.svg, Acetic-acid-2D-skeletal.svg, Essigsäure Keilstrich.svg | |
| Enghraifft o: | math o endid cemegol |
|---|---|
| Math | straight chain fatty acids, short-chain fatty acid |
| Màs | 60.021129366 uned Dalton |
| Fformiwla gemegol | C₂h₄o₂ |
| Clefydau i'w trin | Clefyd y bledren, faginosis bacterol, clefyd y system clywedol, llid y glust allanol |
| Rhan o | finegr |
| Yn cynnwys | ocsigen, carbon, hydrogen |
| Dynodwyr | |
| SMILES | Cc(=o)o |
| Thesawrws NCI | C61623 |
| Freebase | /M/0bsk8 |
| Thesawrws y BNCF | 22510 |
| CAS | 64-19-7 |
| PubChem CID | 176 |
| ChEBI | 15366 |
| InChI | Inchi=1s/c2h4o2/c1-2(3)4/h1h3,(h,3,4) |
| ChEMBL | Chembl539 |
| ChemSpider | 171 |
| UNII | Q40q9n063p |
| ATC | G01ad02, s02aa10 |
| KEGG | D00010 |
| MeSH | D019342 |
| Llawlyfr Ligand | 1058 |
| Rhif EC | 200-580-7 |
| Cofrestr Beilstein | 506007 |
| Drugbank | Db03166 |
| ECHA | 100.000.528 |
| HMDB | Hmdb0000042 |
| RxNorm CUI | 168 |
| NDF-RT | N0000145831 |
| Quora | Acetic-acid |



Asid carbocsylig ydy asid asetig, a elwir hefyd yn asid ethanoig, ac mae ganddo flas sur ac arogl sur. Ei fformiwla gemegol yw CH3COOH. Fe'i ceir mewn finegr. Pan fo'n ei gyflwr puraf, di-ddŵr, mae'n hylif di-liw sy'n amsugno dŵr o'r amgylchedd (hygrosgopi) ac yn rhewi pan fo'r tymheredd o dan 16.7 gradd Celsiws (62 °F) ac yn crisialu'n solid di-liw.
Mae asid asetig yn medru cyrydu a chreu anwedd a all frifo'r llygaid a chreu'r teimlad o losgi yn y trwyn a'r gwddw. Gall hefyd ei gwneud hi'n anodd anadlu. Asid gwan ydyw, oherwydd o dan amgylchiadau arferol (o ran tymheredd a phwysau aer mae'n gemegyn di-ddadgysylltiol ('undissociated' y Saesneg) fel hylif; yn wahanol felly i bob asid cryf gan eu bont hwy i gyd yn ddatgysylltiol.
Yr asid hwn ydy un o'r asidau organig symlaf, ar wahân i asid fformig, sef y symlaf un. Mae hefyd yn adweithydd pwysig iawn gan ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn diwydiant i gynhyrchu nwyddau sy'n cynnwys polyethylene terephthalat a ddefnyddir i wneud diodydd ysgafn, seliwlos asetat (i wneud ffilm ffotograffig), polifeinyl asetat (i wneud rhai mathau o lud pren, a ffeibrau synthetig a deunyddiau eraill. Yn y diwydiant bwyd, fe'i defnyddir o dan y cod ychwanegiadau bwyd E260 oherwydd ei allu i reoli asid.
Cynhyrchir oddeutu 6.5 miliwn tunnell ohono'n flynyddol led-led y byd.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Daw'r gair 'asetig' o'r Lladin acetum, a'i ystyr ydy finegr. Tarddiad y gair finegr yw gwin ac egr (sur). Cynhyrchwyd yn gyntaf wrth i facteria droi gwin yn ddrwg (ei 'egru') ac fe'i defnyddiwyd yn helaeth mewn alcemi yn eu hymdrech i greu aur.