Arthur Hugh Clough
Arthur Hugh Clough | |
---|---|
Darluniad o Arthur Hugh Clough o 1860 | |
Ganwyd | 1 Ionawr 1819 Lerpwl |
Bu farw | 13 Tachwedd 1861 Fflorens |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Cyflogwr | |
Tad | James Butler Clough |
Mam | Anne Perfect |
Priod | Blanche Mary Shore Smith |
Plant | Blanche Clough |
Bardd o Loegr yn ystod Oes Fictoria oedd Arthur Hugh Clough (1 Ionawr 1819 – 13 Tachwedd 1861).
Ganed ef yn Lerpwl, ac aeth i Ysgol Rugby cyn iddo ennill ysgoloriaeth i Goleg Balliol, Rhydychen. Ei fwriad ar y cychwyn oedd i hyfforddi ar gyfer gyrfa glerigol yn Eglwys Loegr, ond gadawodd y brifysgol am iddo gwestiynu ei ffydd. Fe'i penodwyd yn bennaeth ar Neuadd y Brifysgol, Llundain, ym 1849. Ym 1852 cafodd ei wahodd gan Ralph Waldo Emerson i dreulio sawl mis yn darlithio ym Massachusetts, Unol Daleithiau America. Yn ddiweddarach, gweithiodd i adran addysg y llywodraeth a chynorthwyodd Florence Nightingale wrth ei gwaith dyngarol. Ar daith i'r Eidal cafodd ei heintio gan falaria, a bu farw yn Fflorens yn 42 oed.[1]
Mae barddoniaeth Clough yn mynegi sgeptigiaeth grefyddol—pwnc poblogaidd yn llên Lloegr yng nghanol y 19g—a hynny mewn modd eironig braidd. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd nifer o'i gerddi yn y gyfrol Poems (1862), a fu'n hynod o boblogaidd. Roedd yn gyfaill i Matthew Arnold, a chyfansoddodd Arnold yr alargerdd "Thyrsis" er cof amdano.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Arthur Hugh Clough. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Awst 2022.