Arfon Griffiths
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Arfon Trevor Griffiths | ||
Dyddiad geni | 23 Awst 1941 | ||
Man geni | Wrecsam, Cymru | ||
Safle | Canol Cae | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
1957–1959 | Wrecsam | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1959–1961 | Wrecsam | 41 | (8) |
1961–1962 | Arsenal | 15 | (2) |
1962–1979 | Wrecsam | 550 | (112) |
1975 | → Seattle Sounders (benthyg) | 15 | (1) |
Cyfanswm | 621 | (123) | |
Tîm Cenedlaethol | |||
1971–1976 | Cymru | 17 | (6) |
Timau a Reolwyd | |||
1977–1981 | Wrecsam | ||
1981–1982 | Crewe Alexandra | ||
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Cyn bêl-droediwr Cymreig ydy Arfon Trevor Griffiths MBE[1] (ganwyd 23 Awst 1941). Rhwng 1959 a 1979 chwaraeodd dros Wrecsam, Arsenal a Chymru cyn mynd ymlaen i reoli Wrecsam a Crewe Alexandra.
Gyrfa chwarae
[golygu | golygu cod]Gwrthododd Griffiths gyfle i fynd ar dreial gyda Lerpwl a Sheffield Wednesday er mwyn arwyddo fel amatur â Wrecsam ym mis Mai 1957[2].
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf yn erbyn Darlington yng Nghwpan FA Lloegr ym mis Tachwedd 1958[3], ac roedd yn aelod o dîm ieuenctid y clwb pan lwyddodd i ennill Cwpan Ieuenctid Cymru. Bu rhaid iddo ddisgwyl hyd nes y Tachwedd canlynol i chwarae i'r tîm cyntaf am yr ail dro, a hynny mewn gêm Gynghrair yn erbyn Reading gan gadw ei le yn y tîm am weddill y tymor a chodi Cwpan Cymru wrth i Wrecsam drechu Caerdydd yn y rownd derfynol.
Ym mis Chwefror 1961 talodd Arsenal £15,500 amdano a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf gan golli 5-1 yn erbyn Wolverhampton Wanderers ar 22 Ebrill 1961[4]. Sgoriodd ddwywaith mewn 15 ymddangosiad i Arsenal cyn cael ei werthu yn ôl i Wrecsam am £8,000[3].
Llwyddodd i arwain Wrecsam i ddyrchafiad ym 1961-62 a 1969-70 yn ogystal â chodi Cwpan Cymru ar bedair achlysur ac roedd yn aelod allweddol o'r tîm gan lwyddo i gyrraedd rownd yr wyth olaf o Gwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ym 1975-76 cyn colli yn erbyn RSC Anderlecht. Gwnaeth 591 ymddangosiad yn y Gynghrair i Wrecsam, sy'n record i'r clwb, a sgoriodd 120 o goliau.
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Er iddo chwarae yn Nhrydedd Adran y Gynghrair, cafodd Griffiths ei alw i garfan Cymru ym 1971 gan ennill ei gap cyntaf fel eilydd yn erbyn Tsiecoslofacia[5] yng ngemau rhagbrofol Euro 1972.
Er mynd ar daith Cymru i Tahiti, Seland Newydd a Maleisia ym 1971[3][6] ni chafodd ei ail gap tan gemau rhagbrofol Euro 1976 lle roedd yn aelod allweddol o'r tîm pan lwyddodd i gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Gyrfa rheoli
[golygu | golygu cod]Wrecsam
[golygu | golygu cod]Wedi chwarae o dan wyth rheolwr gwahanol yn Wrecsam, cymerodd Griffiths yr awenau yn ei ddwylo'i hun ym mis Mai 1977 yn dilyn ymddiswyddiad John Neal[3][7]. Llwyddodd i arwain Wrecsam i bencampwriaeth y Drydedd Adran ym 1977-78 a dod y rheolwr cyntaf yn hanes y clwb i sicrhau dyrchafiad i Ail Adran y Gynghrair Bêl-droed.
Ar 13 Mai 1981 ymddiswyddodd Griffiths yn dilyn anghydfod gyda bwrdd y clwb pêl-droed. Roedd y clwb wedi dweud wrth Griffiths bod raid iddo dorri'n ôl ar ei staff ac ar y tîm ieuenctid ond fe wrthododd wneud hynny a gadawodd y clwb[3].
Crewe Alexandra
[golygu | golygu cod]Cafodd ei benodi'n rheolwr ar Crewe Alexandra ym mis Awst 1981 gan dreulio tymor gyda'r clwb cyn ymddiswyddo ar 25 Hydref 1982.
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Ym 1975 cafodd Griffiths ei urddo â gwobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru[8] ac ym 1976 cafodd yr MBE am ei wasnaeth i bêl-droed Cymreig ac mae hefyd yn aelod o Oriel Anfarwolion Wrecsam[9].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Arsenal History: Arfon Griffiths". Arsenal.com. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Dedication to Wrexham came at a cost to Arfon". Daily Post. 2008-07-14. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Peter Jones a Gareth M. Davies (1999). The Racecourse Robins: Adams To Youds. ISBN 0-952495-01-5.
- ↑ "Arsenal v Wolverhampton Wanderers, 22 Abrill 1961". 11v11. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ Gareth M. Davies ac Ian Garland (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. ISBN 1-872424-11-2.
- ↑ "Non-cap international matches". Welsh Football Online. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ Ian Gwyn Hughes (2008-04-28). "The rise and fall of Wrexham". BBC Sport. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "BBC Wales Sport Personality winners". BBC Sport. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Wrexham AFC Hall of Fame". Wrexham AFC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-16. Cyrchwyd 2015-12-05. Unknown parameter
|published=
ignored (help)
Rhagflaenydd: Gareth Edwards |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1976 |
Olynydd: Mervyn Davies a thîm Camp Lawn Cymru |