Arenig Fach
![]() | |
Math |
mynydd ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
689 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
52.9583°N 3.7569°W ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd |
294 metr ![]() |
Rhiant gopa |
Arenig Fawr ![]() |
Cadwyn fynydd |
Eryri ![]() |
![]() | |
Mae Arenig Fach yn gopa mynydd a geir yn nwyrain Parc Cenedlaethol Eryri, rhwng y Bermo a Betws-y-Coed a'r Bala; cyfeiriad grid SH820415. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 395metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Saif i'r gorllewin o Lyn Celyn ac i'r gogledd o'r briffordd A4212, gyda chopa Arenig Fawr i'r de, yr ochr arall i'r A4212, a Carnedd y Filiast i'r gogledd-ddwyrain. Gellir ei ddringo o'r A4212, neu ar draws y Migneint o'r B4407 ger Pont ar Gonwy, sy'n daith lawer anoddach. Saif Llyn Arenig Fach ar ei lechweddau dwyreiniol.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 689m (2260tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 30 Mehefin 2008.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'