Ekaterinburg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn newid: udm:Катьырнакар
Loveless (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 98: Llinell 98:
[[tr:Yekaterinburg]]
[[tr:Yekaterinburg]]
[[tt:Екатеринбург]]
[[tt:Екатеринбург]]
[[udm:Катьырнакар]]
[[udm:Екатеринбург]]
[[uk:Єкатеринбург]]
[[uk:Єкатеринбург]]
[[vi:Yekaterinburg]]
[[vi:Yekaterinburg]]

Fersiwn yn ôl 18:39, 12 Ebrill 2011

Ekaterinburg
Oblast Sverdlovsk
Lleoliad Ekaterinburg
Daearyddiaeth
Arwynebedd km²
Uchder uwchben lefel y môr 237 m
Demograffeg
Poblogaeth (Cyfrifiad 2002) 1,311,252
Poblogaeth (amcangyfrif 2006) 1,336,500
Gwleidyddiaeth
Maer Arkadiy Chernetskiy


Un o brif ddinasoedd gorllewin Siberia (Rwsia) a chanolfan weinyddol Oblast Sverdlovsk a'r dalaith ffederal Ural yw Ekaterinburg (Rwsieg Екатеринбу́рг). Lleolir y ddinas i'r dwyrain i'r mynyddoedd Ural, ar lannau Afon Iset. Hon yw'r pedwaredd ddinas o ran maint poblogaeth yn Rwsia, a chanddi boblogaeth o 1,336,500 (amcangyfrif Ionawr 2006). Adnabyddid y ddinas fel Sverdlovsk rhwng 1924 a 1991, ar ôl yr arweinydd Bolsheficaidd Yakov Sverdlov.

Eglwys ar y Gwaed, Ekaterinburg

Atyniad enwocaf y ddinas yw'r Eglwys ar y Gwaed (Eglwys yr Holl Seintiau), eglwys a adeiladwyd yn 2003 ar y man lle saethwyd tsar Rwsia olaf a'i deulu yn farw ym 1918. Y person enwocaf gyda chysylltiadau â'r ddinas oedd Boris Yeltsin, cyn-arlywydd Rwsia, oedd yn hanu o'r ardal ac a fu'n fyfyriwr mewn athrofa yno.

Lleolir nifer o gonsyliaethau tramor yn Ekaterinburg, rhai i'r Almaen, Fwlgaria, Prydain, Kyrgyzstan, y Weriniaeth Tsiec, Tsieina a'r Unol Daleithiau.

Cludiant

Mae Ekaterinburg yn sefyll ar Ffordd Ewropeaidd yr E22, sy'n ei chysylltu ag Ishim i'r dwyrain a Perm Moscow, Riga, Malmö, Hamburg, Amsterdam, Leeds a Chaergybi draw yng Nghymru i'r gorllewin.

Gefeilldrefi