Fatema Mernissi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Newid enw'r wybodlen using AWB |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
| dateformat = dmy |
| dateformat = dmy |
||
}} |
}} |
||
Cymdeithasegydd ac awdures ffeministaidd [[Moroco|Forocaidd]] oedd '''Fatema Mernissi''' ([[27 Medi]] [[1940]] – [[30 Tachwedd]] [[2015]]). Cymerodd ran bwysig yn y ddadl ynghylch moderneiddio cymdeithasau Islamaidd. |
Cymdeithasegydd ac awdures ffeministaidd [[Moroco|Forocaidd]] oedd '''Fatema Mernissi''' ([[27 Medi]] [[1940]] – [[30 Tachwedd]] [[2015]]). Cymerodd ran bwysig yn y ddadl ynghylch moderneiddio cymdeithasau Islamaidd. |
||
Fe'i genwyd yn [[Fès]], [[Moroco]], a magwyd yn harîm ei mam-gu o ochr ei thad. |
Fe'i genwyd yn [[Fès]], [[Moroco]], a magwyd yn harîm ei mam-gu o ochr ei thad. |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
http://www.fpa.es/en/cargarAplicacionPremiadoCompleto.do |
http://www.fpa.es/en/cargarAplicacionPremiadoCompleto.do |
||
|publisher=Fundación Princesa de Asturias|accessdate=25 Mai 2019}}</ref> |
|publisher=Fundación Princesa de Asturias|accessdate=25 Mai 2019}}</ref> |
||
a'r [[Gwobr Erasmus|Wobr Erasmus]] yn 2004 (gyda [[Sadiq Jalal Al-Azm]] a [[Abdolkarim Soroush]]).<ref name="Erasmus" |
a'r [[Gwobr Erasmus|Wobr Erasmus]] yn 2004 (gyda [[Sadiq Jalal Al-Azm]] a [[Abdolkarim Soroush]]).<ref name="Erasmus" /> |
||
== Cyfeiriadau == |
== Cyfeiriadau == |
||
Llinell 29: | Llinell 29: | ||
{{DEFAULTSORT:Mernissi, Fatema}} |
{{DEFAULTSORT:Mernissi, Fatema}} |
||
[[Categori:Cymdeithasegwyr Morocaidd]] |
[[Categori:Cymdeithasegwyr Morocaidd]] |
||
[[Categori:Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Paris]] |
[[Categori:Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Paris]] |
Fersiwn yn ôl 20:49, 10 Rhagfyr 2019
Fatema Mernissi | |
---|---|
Ffugenw | Fatma Aït Sabah |
Ganwyd | 27 Medi 1940 Fès |
Bu farw | 30 Tachwedd 2015 Rabat |
Dinasyddiaeth | Moroco |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgrifennwr, awdur ysgrifau, cymdeithasegydd, academydd, awdur ffeithiol, ymgyrchydd dros hawliau merched, ffeminist |
Swydd | athro cadeiriol |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Erasmus, Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias |
Cymdeithasegydd ac awdures ffeministaidd Forocaidd oedd Fatema Mernissi (27 Medi 1940 – 30 Tachwedd 2015). Cymerodd ran bwysig yn y ddadl ynghylch moderneiddio cymdeithasau Islamaidd.
Fe'i genwyd yn Fès, Moroco, a magwyd yn harîm ei mam-gu o ochr ei thad. Derbyniodd ei haddysg gynradd mewn ysgol a sefydlwyd gan y mudiad cenedlaetholgar, a'i haddysg uwchradd mewn ysgol i ferched a ariannwyd gan y brotectoriaeth Ffrengig a reolodd y wlad o 1912 i 1956. Wedyn astudiodd ym Mhrifysgol Mohammed V yn Rabat, Prifysgol Paris yn Ffrainc, a Phrifysgol Brandeis yn yr Unol Daleithiau, lle enillodd ei doethuriaeth ym 1974. Dychwelodd i Brifysgol Mohammed V a darlithiodd yn y Faculté des Lettres rhwng 1974 a 1981 ar bynciau cymdeithasegol.[1]
Astudiodd ac ysgrifennodd am y ffordd mae menywod Mwslimaidd yn byw ac yn gweld y byd. Rhannodd ei gwybodaeth ar ffurf erthyglau ysgolheigaidd a nofelau. Daeth yn fodel rôl ar gyfer y cenedlaethau iau. Ar ôl ei chyfnod astudio yn y Gorllewin, roedd yn gallu tynnu cymariaethau ac i weld y ddau ddiwylliant yn feirniadol. Dadleuodd fod yn rhaid i fenywod chwarae rhan lawn yn y maes cyhoeddus. Roedd hi'r prif ysgogydd y tu ôl i'r Caravane Civique, rhwydwaith mawr o artistiaid, deallusion a gweithredwyr.[2]
Daeth ei monograff cyntaf, Beyond the Veil: Male-Female Dynamics in a Muslim Society (1975), yn glasur, ond ei gwaith mwyaf adnabyddus yw Le Harem politique: Le Prophète et les femmes (1987; cyfieithiad Saesneg: The Veil and the Male Elite, 1991), sy'n astudiaeth o wragedd y Proffwyd Muhammad.
Enillodd Wobr Tywysoges Asturias yn 2003 (gyda Susan Sontag),[3] a'r Wobr Erasmus yn 2004 (gyda Sadiq Jalal Al-Azm a Abdolkarim Soroush).[2]
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Gayatri Devi (18 Rhagfyr 2015). "Fatima Mernissi obituary". The Guardian. Cyrchwyd 25 Mai 2019. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) "Former Laureates: Fatema Mernissi". Praemium Erasmianum Foundation. Cyrchwyd 25 Mai 2019.
- ↑ (Saesneg) "Princess of Asturias: Awards Laureates". Fundación Princesa de Asturias. Cyrchwyd 25 Mai 2019.