Fatema Mernissi

Oddi ar Wicipedia
Fatema Mernissi
FfugenwFatma Aït Sabah Edit this on Wikidata
Ganwyd27 Medi 1940 Edit this on Wikidata
Fès Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 2015 Edit this on Wikidata
Rabat Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMoroco Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, awdur ysgrifau, cymdeithasegydd, academydd, awdur ffeithiol, ymgyrchydd dros hawliau merched, ffeminist Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auGwobr Erasmus, Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias Edit this on Wikidata

Cymdeithasegydd ac awdures ffeministaidd Forocaidd oedd Fatema Mernissi (27 Medi 194030 Tachwedd 2015). Cymerodd ran bwysig yn y ddadl ynghylch moderneiddio cymdeithasau Islamaidd.

Fe'i genwyd yn Fès, Moroco, a magwyd yn harîm ei mam-gu o ochr ei thad. Derbyniodd ei haddysg gynradd mewn ysgol a sefydlwyd gan y mudiad cenedlaetholgar, a'i haddysg uwchradd mewn ysgol i ferched a ariannwyd gan y brotectoriaeth Ffrengig a reolodd y wlad o 1912 i 1956. Wedyn astudiodd ym Mhrifysgol Mohammed V yn Rabat, Prifysgol Paris yn Ffrainc, a Phrifysgol Brandeis yn yr Unol Daleithiau, lle enillodd ei doethuriaeth ym 1974. Dychwelodd i Brifysgol Mohammed V a darlithiodd yn y Faculté des Lettres rhwng 1974 a 1981 ar bynciau cymdeithasegol.[1]

Astudiodd ac ysgrifennodd am y ffordd mae menywod Mwslimaidd yn byw ac yn gweld y byd. Rhannodd ei gwybodaeth ar ffurf erthyglau ysgolheigaidd a nofelau. Daeth yn fodel rôl ar gyfer y cenedlaethau iau. Ar ôl ei chyfnod astudio yn y Gorllewin, roedd yn gallu tynnu cymariaethau ac i weld y ddau ddiwylliant yn feirniadol. Dadleuodd fod yn rhaid i fenywod chwarae rhan lawn yn y maes cyhoeddus. Roedd hi'r prif ysgogydd y tu ôl i'r Caravane Civique, rhwydwaith mawr o artistiaid, deallusion a gweithredwyr.[2]

Daeth ei monograff cyntaf, Beyond the Veil: Male-Female Dynamics in a Muslim Society (1975), yn glasur, ond ei gwaith mwyaf adnabyddus yw Le Harem politique: Le Prophète et les femmes (1987; cyfieithiad Saesneg: The Veil and the Male Elite, 1991), sy'n astudiaeth o wragedd y Proffwyd Muhammad.

Enillodd Wobr Tywysoges Asturias yn 2003 (gyda Susan Sontag),[3] a'r Wobr Erasmus yn 2004 (gyda Sadiq Jalal Al-Azm a Abdolkarim Soroush).[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Gayatri Devi (18 Rhagfyr 2015). "Fatima Mernissi obituary". The Guardian. Cyrchwyd 25 Mai 2019. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Former Laureates: Fatema Mernissi". Praemium Erasmianum Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-24. Cyrchwyd 25 Mai 2019.
  3. (Saesneg) "Princess of Asturias: Awards Laureates". Fundación Princesa de Asturias. Cyrchwyd 25 Mai 2019.