Pendevig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B cats |
"Soddgrwth" yw ffurf safonol y gair |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
* [[Angharad Jenkins]] - ffidil |
* [[Angharad Jenkins]] - ffidil |
||
* [[Aeddan Williams]] - bas dwbl a thrydanol |
* [[Aeddan Williams]] - bas dwbl a thrydanol |
||
* [[Jordan Price Williams]] - |
* [[Jordan Price Williams]] - soddgrwth a chwibanau |
||
* [[Patrick Rimes]] - ffidil, pibau, chwibanau, allweddellau |
* [[Patrick Rimes]] - ffidil, pibau, chwibanau, allweddellau |
||
* [[Bethan Rhiannon]] - llais, acordion, dawns, synth |
* [[Bethan Rhiannon]] - llais, acordion, dawns, synth |
Fersiwn yn ôl 22:43, 4 Rhagfyr 2019
Grŵp gwerin cyfoes a ffurfiwyd yn 2018 yw Pendevig. Ffurfiwyd y band yn arbennig ar gyfer perfformiadau yn Festival Interceltique de Lorient a phafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018[1]. Rhyddhawyd albwm cyntaf y band, Pendevig I., i gyd-fynd â'r perfformiadau hyn.
Maent yn cyfuno cerddoriaeth draddodiadol o Gymru â dylanwadau jazz, drum 'n' bass, ffync, pop a roc; yn ogystal â chynnwys barddoniaeth berfformiadol yn nifer o'u caneuon. Mae eu perfformiadau byw yn cynnwys elfennau theatrig megis dawnswyr, acrobateg a thân.
Enillodd Pendevig y wobr am y Band Byw Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2019. Roeddent hefyd ar y rhestr fer am y gân draddodiadol orau gyda 'Lliw Gwyn' (fersiwn o 'Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf'), oddi ar eu halbwm cyntaf.
Aelodau
- Iolo Whelan - drymiau ac offerynnau taro
- Sam Humphreys - gitarau
- Angharad Jenkins - ffidil
- Aeddan Williams - bas dwbl a thrydanol
- Jordan Price Williams - soddgrwth a chwibanau
- Patrick Rimes - ffidil, pibau, chwibanau, allweddellau
- Bethan Rhiannon - llais, acordion, dawns, synth
- Aneirin Jones - ffidil
- Iestyn Tyne - llais, pastwn
- Greg Sterland - sacsoffon
- Ted Smith - trwmped
- Alice French - telyn
- Gwilym Bowen Rhys - llais, mandolin
- Jamie Smith - acordion
- Jake Durham - trombôn
Cyfeiriadau
- ↑ "Pendevig - An Electric Reaction to Tradition | National Eisteddfod". eisteddfod.wales. Cyrchwyd 2019-11-27.