Gwobrau Gwerin Cymru

Oddi ar Wicipedia

Digwyddiad blynyddol i ddathlu unigolion a grwpiau o fewn y sîn gerddoriaeth werin yng Nghymru yw Gwobrau Gwerin Cymru. Sefydlwyd y gwobrau yn 2019 gan bartneriaeth rhwng trac, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a nifer o unigolion amlwg ym myd cerddoriaeth werin Cymru.[1]

Gwobrau Gwerin Cymru 2019[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd y noson wobrwyo gyntaf yn Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn Ebrill 2019, dan arweiniad Frank Hennessey (BBC Radio Wales) a Lisa Gwilym (BBC Radio Cymru). Wrth mai dyma'r tro cyntaf i'r digwyddiad gael ei gynnal, agorwyd y categorïau i gynnwys cynnyrch a ryddhawyd yn ystod 2017 a 2018.

Rhestrau byrion ac enillwyr 2019[golygu | golygu cod]

  • Y Grŵp Gorau - Alaw, Jamie Smith's Mabon, Vrï, Enillydd: Calan
  • Y Band/Artist gorau sy'n dechrau dod i'r amlwg - Tant, NoGood Boyo, Vrï, Enillydd: The Trials of Cato
  • Y Gân Gymraeg wreiddiol orau - 'Cân y Cŵn', Gwyneth Glyn; 'Sŵn ar Gardyn Post', Bob Delyn a'r Ebillion; 'Y Gwyfyn', The Gentle Good; Enillydd: 'Bendigeidfran', Lleuwen
  • Y Trac Offerynnol gorau - 'Cyw Bach', Vrï; 'Diddanwch Gruffydd ap Cynan', Delyth ac Angharad; 'Mayfair at Rhayader 1927', Toby Hay; Enillydd: 'Dawns Soïg/ Dawns y Gŵr Marw', Alaw
  • Yr Artist Unigol gorau - Cynefin, Gwyneth Glyn, The Gentle Good, Enillydd: Gwilym Bowen Rhys
  • Yr Albwm gorau - Dal i 'Redig Dipyn Bach, Bob Delyn a'r Ebillion; Llinyn Arian, Delyth ac Angharad; Solomon, Enillydd: Calan; Tŷ ein Tadau, Vrï
  • Y Gân Gymraeg Draddodiadol orau - 'Lliw Gwyn', Pendevig; 'Santiana', Alaw gyda Gwilym Bowen Rhys; 'Y Mab Penfelyn', Bob Delyn a'r Ebillion; Enillydd: 'Ffoles Llantrisant', Vrï
  • Y Gân Saesneg Wreiddiol orau - 'Fall and Drop', Tagaradr; 'Far Ago', Gwyneth Glyn; 'These Are The Things', The Trials of Cato; Enillydd: 'Here Come The Young', Martyn Joseph
  • Y Perfformiad Byw Gorau - Calan, Jamie Smith's Mabon, Yr Hwntws, Enillydd: Pendevig

Yn ystod y noson cyflwynwyd y Wobr Werin, sef gwobr am y tair alaw wreiddiol orau i Huw Roberts o Langefni, Ynys Môn; ac aeth y Wobr am Gyflawniad Oes i Roy Saer, am ei waith yn casglu a recordio caneuon gwerin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwobrau Gwerin Cymru 2019". trac. Cyrchwyd 2019-05-15.