Yr Hwntws

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Grŵp gwerin cyfoes yw Yr Hwntws maent yn canolbwyntio ar ganu caneuon gwerin o ardaloedd Morgannwg a Gwent. Prif leisydd a phrif lefarydd y grŵp yw Greg Lynn. Daw'r enw o'r gair hwntw sef llysenw ar bobl o dde Cymru.

Arddull[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodweddir cerddoriaeth y grŵp gan offerynnau gwerin a llais cryf Greg Lynn sy'n canu yn nhafodiaeth Gwenhwyseg cynhenid nifer o'r caneuon lle caledir cytseiniaid a defnyddir yr "a fain"[1] (sŵn e am e, fel y ceis yn acen ardal Maldwyn).

Ymysg un o'r caneuon a welir yn nodweddiadol o'r grŵp yw Bachgen Bach o Dincer - cân ddwyieithog, macaronig, fywiog a genir gan Greg Lynn.

Rhyddhaodd y band alwmb 'Y Tribanwr' yn 2018 wedi ei seilio ar waith ymchwil hen lawysgrifau a llyfrau caneuon yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth gan gasglu enghreifftiau unigryw’r ffurf farddonol ‘tribannau Morgannwg’ – ffrwyth llafur y gwaith ymchwil yma oedd yr albwm ‘Y Tribanwr’ sy’n cynnwys 70 o dribannau traddodiadol wedi eu trefnu gan Nia Lynn a Bernie Killbride. Wrth ymchwilio daeth Gregg ar draws papurau D. Rhys Phillips yn adrodd hanes y tribannau.

Cyfrannodd Greg Lynn i CD amlgyfranog i ddathlu a chofnodi caneuon ganfuwyd a chyfraniad bersonol Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney i ganu gwerin Cymru, Ffylantin-tw!.[1]

Aelodau[golygu | golygu cod y dudalen]

Alodau cyfredol yr Hwntws (yn 2018) yw:

Greg Lynn - prif leisydd
Nia Lynn - llais, tabwrdd, offerynnau taro
Bernard Killbride - ffidil
Imogen O’Rourke - llais, ffliwt, chwiban D
Dan B. James - gitâr, mandocello
Dean Ryan - bâs dwbl, gitâr fâs

Aelodau gwreiddiol y Band yn 1982 oedd:

Rosemary Lease - bodhrán
Mike Lease - ffidil a gitâr
Greg Lynn - llais, gitâr
Paul Hopkins - mandolin
Jethro Newton - llais

Disgograffi[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir rhestr gyda rhagflas o ganeuon Yr Hwntws ar catalog Recordiau Sain ar y dudalen yma.[2]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerddcymru.png Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato