Neidio i'r cynnwys

Triban

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Triban Morgannwg)

O'r hen englyn cyrch y tyfodd y mesur rhydd cynnar a elwir y triban (amrywiad hynafiaethol: truban). Ceir enghreifftiau o dribannau o bob rhan o Gymru, ond roedd yn enwedig o boblogaidd ym Morgannwg ac felly cyfeirir ato weithiau fel Triban Morgannwg.

Pennill o bedair llinell yw'r triban, gyda saith sillaf yn y llinell gyntaf, yr ail a'r bedwaredd, ac wyth yn y drydedd. Ac eithrio'r drydedd llinell mae'r llinellau hyn yn diweddu'n ddiacen ac yn odli, ond mae'r drydedd llinell yn ddiweddu'n acennog gyda chyrch odl â gair yn y bedwaredd llinell.[1]

Enghraifft:

Mi wnaf i'r creigiau hollti
Ac agor fel briallu
A gwnaf i'r llwynog fod mor ffôl
 mynd ar ôl y milgi.[2]

Tybir y bu't triban yn un o fesurau'r Glêr yn yr Oesoedd Canol. Daw'r enghreifftiau cynharaf sydd ar glawr o'r 16eg ganrif. Daeth yn fesur poblogaidd iawn a genid drwy Gymru benbaladr. Ond mae'n nodweddiadol hefyd o draddodiad canu rhydd gwerinol Morgannwg lle ceir enghreifftiau sy'n gysylltiedig â defod y Fari Lwyd ac arferion gwerin eraill.

'Triban' yw'r enw ar fathodyn Plaid Cymru hefyd, am ei bod yn cynnwys tri ban, sef tri thriongl yn lliwiau Cymru yn cynrychioli mynyddoedd Cymru.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Morgan D. Jones, Termau Iaith a Llên (Gwasg Gomer, 1972), d.g. triban.
  2. Hen Benillion, gol. T. H. Parry Williams (Llandysul: Gwasg Gomer, 4/1975), rhif 696

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]