A55: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
D22 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
D22 (sgwrs | cyfraniadau) helaethu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[delwedd:A55 at Warren Mountain.jpg|right|thumb|Yr A55]] |
[[delwedd:A55 at Warren Mountain.jpg|right|thumb|Yr A55]] |
||
Mae'r '''A55''' yn ffordd ddeuol yng [[Gogledd Cymru|Ngogledd Cymru]]. |
Mae'r '''A55''' yn ffordd ddeuol yng [[Gogledd Cymru|Ngogledd Cymru]], o [[Caer|Gaer]] i [[Caergybi|Gaergybi]]. |
||
==Hanes== |
|||
Roedd y [[Ymerodraeth Rhufeinig|Rhufeiniad]] wedi adeiladu ffordd ar draws Gogledd Cymru er mwyn cysylltu eu cestyll yng Ngaer (''[[Deva]]'') a [[Caernarfon|Chaernarfon]] (''[[Segontiwm]]'') - ond prin iawn bod y ffordd bresennol yn dilyn yr un llwybr. Yn wir, roedd pentiroedd Penmaenmawr a Phen-y-clip wedi trechu'r teithwyr cynnar, gyda'r llwybr dros [[Bwlch y Ddeufaen]] yn rhoi llwybr mwy diogel at [[Eryri]]. |
|||
Mae hanes yr A55 yn dechrau gyda [[Thomas Telford]]. Pan gomisiynwyd ef i adeiladu'r [[A5]] o [[Lundain]] i [[Caergybi|Gaergybi]], gofynwyd hefyd iddo wella'r ffordd o [[Conwy|Gonwy]] ar draws yr arfordir at ei ffordd newydd, gan gynnwys pontio'r [[Afon Conwy]]. Adeiladodd Telford [[Pont Grog Conwy]], a agorwyd yn [[1826]], fel y bont cyntaf ar draws yr afon yn y fan yma, llawer is na phontydd blaenorol, ac roedd hefyd wedi adeiladu ei ffordd dros lethrau'r ddau bentir peryglus. Roedd hwn felly wedi agor i fyny llwybr yr A55 presennol i deithio o Gaer i [[Bangor|Fangor]] trwy [[Conwy (tref)|Conwy]]. |
|||
Yn y [[1930au]], gwellwyd ffordd Telford pan adeiladwyd yn sylweddol i leddfu'r siwrnai dros bentiroedd Penmaenmawr (un twnel) a Phen-y-clip (dau dwnel a phont dros rhan o'r môr). Yn [[1959]], agorwyd pont newydd ar draws [[Afon Conwy]] wrth ymyl y bont grog. |
|||
==Y Ffordd Fodern== |
|||
Rhwng y [[1960au]] a'r [[1980au]], mewn cyfres o ffyrdd osgoi, gwelliannau bychan a pheirianeg sifil mwy sylweddol, gwellwyd y cyfan o'r ffordd i fod yn ffordd ddeuol, ''Gwibffordd Gogledd Cymru''. Fel rhan o'r gwaith hwn, adeiladwyd twnel dan y môr fel ffordd amgen i groesi [[Afon Conwy]] ac osgoi tagfeydd traffig yn nhref [[Conwy (tref)|Conwy]], ac adeiladwyd twnelau mwy sylweddol drwy'r ddau pentir. |
|||
Yn [[2001]], fel rhan o gynllun Cynllun Cyllid Preifat, ymestynwyd yr ffordd i gynnwys [[Pont Britannia]] (a rifwyd yr A5 cyn hynny) ac ar draws [[Ynys Môn]], fel ffordd ddeuol ar draws yr ynys i osgoi pentrefi yr [[A5]]. |
|||
Mae'r A55 gyfan bellach wedi ei ddynodi yn rhan o Ffordd Ewropeaidd E22. |
|||
{{eginyn}} |
|||
{{stwbyn}} |
|||
[[en:A55 road]] |
[[en:A55 road]] |
||
[[sv:A55 (Storbritannien)]] |
[[sv:A55 (Storbritannien)]] |
Fersiwn yn ôl 22:24, 26 Rhagfyr 2006
Mae'r A55 yn ffordd ddeuol yng Ngogledd Cymru, o Gaer i Gaergybi.
Hanes
Roedd y Rhufeiniad wedi adeiladu ffordd ar draws Gogledd Cymru er mwyn cysylltu eu cestyll yng Ngaer (Deva) a Chaernarfon (Segontiwm) - ond prin iawn bod y ffordd bresennol yn dilyn yr un llwybr. Yn wir, roedd pentiroedd Penmaenmawr a Phen-y-clip wedi trechu'r teithwyr cynnar, gyda'r llwybr dros Bwlch y Ddeufaen yn rhoi llwybr mwy diogel at Eryri.
Mae hanes yr A55 yn dechrau gyda Thomas Telford. Pan gomisiynwyd ef i adeiladu'r A5 o Lundain i Gaergybi, gofynwyd hefyd iddo wella'r ffordd o Gonwy ar draws yr arfordir at ei ffordd newydd, gan gynnwys pontio'r Afon Conwy. Adeiladodd Telford Pont Grog Conwy, a agorwyd yn 1826, fel y bont cyntaf ar draws yr afon yn y fan yma, llawer is na phontydd blaenorol, ac roedd hefyd wedi adeiladu ei ffordd dros lethrau'r ddau bentir peryglus. Roedd hwn felly wedi agor i fyny llwybr yr A55 presennol i deithio o Gaer i Fangor trwy Conwy.
Yn y 1930au, gwellwyd ffordd Telford pan adeiladwyd yn sylweddol i leddfu'r siwrnai dros bentiroedd Penmaenmawr (un twnel) a Phen-y-clip (dau dwnel a phont dros rhan o'r môr). Yn 1959, agorwyd pont newydd ar draws Afon Conwy wrth ymyl y bont grog.
Y Ffordd Fodern
Rhwng y 1960au a'r 1980au, mewn cyfres o ffyrdd osgoi, gwelliannau bychan a pheirianeg sifil mwy sylweddol, gwellwyd y cyfan o'r ffordd i fod yn ffordd ddeuol, Gwibffordd Gogledd Cymru. Fel rhan o'r gwaith hwn, adeiladwyd twnel dan y môr fel ffordd amgen i groesi Afon Conwy ac osgoi tagfeydd traffig yn nhref Conwy, ac adeiladwyd twnelau mwy sylweddol drwy'r ddau pentir.
Yn 2001, fel rhan o gynllun Cynllun Cyllid Preifat, ymestynwyd yr ffordd i gynnwys Pont Britannia (a rifwyd yr A5 cyn hynny) ac ar draws Ynys Môn, fel ffordd ddeuol ar draws yr ynys i osgoi pentrefi yr A5.
Mae'r A55 gyfan bellach wedi ei ddynodi yn rhan o Ffordd Ewropeaidd E22.