Gwilym Bowen Rhys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 14: Llinell 14:
‘'O Groth y Ddaear’' yw ei albwm unigol gyntaf a lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 2016.
‘'O Groth y Ddaear’' yw ei albwm unigol gyntaf a lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 2016.


Enillodd y wobr am yr Artist Unigol Gorau yng [[Gwobrau Gwerin Cymru|Ngwobrau Gwerin Cymru 2019]].
Enillodd y wobr am yr Artist Unigol Gorau yng [[Gwobrau Gwerin Cymru|Ngwobrau Gwerin Cymru 2019]]. Derbyniodd enwebiad ar gyfer gwobr yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin [[BBC Radio 2]] 2019.<ref>{{Cite web|title=BBC Radio 2 - BBC Radio 2 Folk Awards - BBC Radio 2 Folk Awards Nominees 2019|url=https://www.bbc.co.uk/programmes/articles/2hMKzvqbfHmNySYjZXKW0mw/bbc-radio-2-folk-awards-nominees-2019|website=BBC|access-date=2019-08-19|language=en-GB}}</ref>


===Clocsiau===
===Clocsiau===

Fersiwn yn ôl 16:36, 19 Awst 2019

Gwilym Bowen Rhys
Ganwyd23 Hydref 1992 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, bardd Edit this on Wikidata
PerthnasauZonia Bowen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.gwilymbowenrhys.com/ Edit this on Wikidata

Mae Gwilym Bowen Rhys (ganwyd Hydref 1993) yn ganwr a chyfansoddwr o bentref Bethel ger Caernarfon.

Cafodd fagwraeth Gymraeg a Chymreig, yn cystadlu ar lwyfan eisteddfodau lleol. Yn 14 oed yn 2007, ymunodd gyda’i ddau gefnder a chyfaill i ffurfio’r band roc Y Bandana. Yn 2012 sefydlodd grŵp gwerin amgen, Plu gyda'i ddwy chwaer; Elan a Marged.

Gyrfa

Cerddoriaeth

Yn ogystal â cherddoriaeth, mae ganddo hefyd ddiddordeb angerddol mewn hanes a diwylliannau cynhenid, ac felly yn ddigon naturiol, fe dyfodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth traddodiadol ein gwlad. Cychwynodd astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi cael y fraint o deithio ledled y byd yn perfformio gyda phrosiectau NEXO yn yr Ariannin a TOSTA yng Nghymru, Iwerddon, Yr Alban, Cernyw, Fryslân, Galisia a Gwlad y Basg.[1]

Ers rhai blynyddoedd bellach mae wedi bod yn canu ac ymchwilio mewn i ganeuon ac alawon traddodiadol o Gymru a cheisio codi ymwybyddiaeth o'n cerddoriaeth a’n llenyddiaeth gynhenid.

Cyrhaeddodd cystadleuaeth Cân i Gymru ddwy waith gan gyfansoddi gyda ei fam Siân.[2]

‘'O Groth y Ddaear’' yw ei albwm unigol gyntaf a lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 2016.

Enillodd y wobr am yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2019. Derbyniodd enwebiad ar gyfer gwobr yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2019.[3]

Clocsiau

Yn Ebrill 2014 cychwynnodd ddysgu y grefft o wneud clocsiau. Roedd y crefftwr Trefor Owen o Griccieth wedi bwriadu ymddeol o'i waith yn gwneud clocsiau ond doedd neb i gymeryd yr awenau. Cynigiodd y Tywysog Charles wneud cyfraniad er mwyn hyfforddi crefftiwr newydd a bu Gwilym yn cael hyfforddiant yn y grefft.[4] Yn 2016 aeth i rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn yr adran Prentis Sylfaen y Flwyddyn.[5]

Teulu

Rhieni Gwilym yw Rhys Harris, cyn-aelod o'r Trwynau Coch a Siân Harris. Ei famgu ar ochr ei fam yw Zonia Bowen.

Disgyddiaeth

Teitl Fformat Label Rhif Catalog Dyddiad Rhyddhau
O Groth y Ddaear Albwm, CD Fflach: tradd CD358H 2016
Detholiad o Hen Faledi, I Albwm, CD Erwydd ER001 2018
Arenig Albwm,CD Erwydd ER003 2019

Dolenni

Cyfeiriadau

  1.  Gwilym Bowen Rhys - Gwestai Penblwydd Rhaglen Dewi Llwyd. BBC Radio Cymru (12 Hydref 2014).
  2. GWILYM BOWEN RHYS A SIÂN HARRIS , S4C, 2014.
  3. "BBC Radio 2 - BBC Radio 2 Folk Awards - BBC Radio 2 Folk Awards Nominees 2019". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-08-19.
  4. 'Sicrhau dyfodol' un o wneuthurwyr clocsiau olaf Cymru , BBC Cymru Fyw, 16 Mehefin 2014. Cyrchwyd ar 9 Mai 2019.
  5.  Gwobrau Rownd Derfynol 2016. Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (2016).