Toddaid byr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Amrywiad bychan ar y toddaid yw'r '''toddaid byr'''. Ceir chwe sillaf yn yr ail linell yn hytrach na naw fel y ceir mewn toddaid cyffredin. Cenir toddai...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Amrywiad bychan ar y [[toddaid]] yw'r '''toddaid byr'''. Ceir chwe sillaf yn yr ail linell yn hytrach na naw fel y ceir mewn toddaid cyffredin. |
Amrywiad bychan ar y [[toddaid]] yw'r '''toddaid byr'''. Ceir chwe sillaf yn yr ail linell yn hytrach na naw fel y ceir mewn toddaid cyffredin. |
||
Cenir toddaid byr fel [[paladr]] [[englyn unodl union]] neu [[englyn penfyr]]. Ceir cynghanedd rhwng y gair cyrch a'r ail linell, ac y mae'r ail linell yn bengoll gan amlaf, oni bai bod [[cynghanedd sain]] yn cael ei defnyddio. |
Cenir toddaid byr fel [[paladr]] [[englyn unodl union]] neu [[englyn penfyr]]. Ceir cynghanedd rhwng y gair cyrch a'r ail linell, ac y mae'r ail linell yn [[cynghanedd bengoll|bengoll]] gan amlaf, oni bai bod [[cynghanedd sain]] yn cael ei defnyddio. |
||
Dyma enghraifft o doddaid byr, sef paladr englyn enwog [[Tudur Aled]] i'r ''Gwreiddyn'':<ref>[[T. Gwynn Jones]], ''Gwaith Tudur Aled'' mewn dwy gyfrol, Gwasg Prifysgol Cymru, 1926</ref> |
Dyma enghraifft o doddaid byr, sef paladr englyn enwog [[Tudur Aled]] i'r ''Gwreiddyn'':<ref>[[T. Gwynn Jones]], ''Gwaith Tudur Aled'' mewn dwy gyfrol, Gwasg Prifysgol Cymru, 1926</ref> |
Fersiwn yn ôl 16:44, 29 Medi 2010
Amrywiad bychan ar y toddaid yw'r toddaid byr. Ceir chwe sillaf yn yr ail linell yn hytrach na naw fel y ceir mewn toddaid cyffredin.
Cenir toddaid byr fel paladr englyn unodl union neu englyn penfyr. Ceir cynghanedd rhwng y gair cyrch a'r ail linell, ac y mae'r ail linell yn bengoll gan amlaf, oni bai bod cynghanedd sain yn cael ei defnyddio.
Dyma enghraifft o doddaid byr, sef paladr englyn enwog Tudur Aled i'r Gwreiddyn:[1]
- Mae'n wir y gwelir argoelyn - difai
- Wrth dyfiad y brigyn.
Mae'r ail linell yn bengoll gan nad yw y brigyn yn rhan o'r gyfatebiaeth.
Dyma enghraifft o doddaid byr gyda chynghanedd sain rhwng y gair cyrch a'r ail linell o waith y pencerdd Wiliam Llŷn:[2]
- Llywelyn Gwilym llew hualog - aur
- Braich henaur Brycheiniog.
Gall yr ail linell fod yn bengoll os defnyddir y Gynghanedd Sain Alun.
Llyfryddiaeth
- John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)
Cyfeiriadau
- ↑ T. Gwynn Jones, Gwaith Tudur Aled mewn dwy gyfrol, Gwasg Prifysgol Cymru, 1926
- ↑ J. C. Morrice, Barddoniaeth Wiliam Llŷn, Jarvis & Foster, 1908