Llenyddiaeth Lydaweg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 14: Llinell 14:


=== Yr 20g ===
=== Yr 20g ===
Sefydlwyd sawl cyfnodolyn yn yr 20g i gyhoeddi gwaith newydd, gan gynnwys ''Gwalarn'' (yn ddiweddarach ''Al Liamm''). Un o [[nofel]]au gwychaf yr iaith ydy ''Itron Varia Garmez'' (1941) gan [[Youenn Drezen]]. Ymhlith llenorion pwysig eraill yr 20g mae'r bardd crefydol [[Jean Pierre Colloc'h]] a'r bardd natur [[Roperzh Er Mason]].
Sefydlwyd sawl cyfnodolyn yn yr 20g i gyhoeddi gwaith newydd, gan gynnwys ''Gwalarn'' (yn ddiweddarach ''Al Liamm''). Un o [[nofel]]au gwychaf yr iaith ydy ''Itron Varia Garmez'' (1941) gan [[Youenn Drezen]]. Ymhlith llenorion pwysig eraill yr 20g mae'r bardd crefydol [[Yann-Bêr Kalloc'h]] [[Jean Pierre Colloc'h]] a'r bardd natur [[Roperzh Er Mason]].



===Llyfryddiaeth===
===Llyfryddiaeth===

Fersiwn yn ôl 23:57, 8 Gorffennaf 2019

Gellir rhannu llenyddiaeth Lydaweg yn dri chyfnod sy'n adlewyrchu hanes yr iaith Lydaweg: yr Hen Oes, yr Oes Ganol, a'r Oes Fodern.

Llenyddiaeth Hen Lydaweg

Dim ond ychydig o olion o'r Hen Lydaweg, sef y cyfnod o'r 7g i'r 11g, sydd yn goroesi, bron i gyd yn enwau a glosau ar eiriau Lladin mewn dogfennau.

Llenyddiaeth Llydaweg Canol

Cychwynnai cyfnod y Llydaweg Canol yn yr 11g. Y testun llenyddol cynharaf yn yr iaith Lydaweg ydy Dialog etre Arzur roe d'an Bretouned ha Guinglaff ("Ymddiddan rhwng Arthur, brenin y Brythoniaid a Gwinglaff") sy'n dyddio o'r 15g. Mae'r mwyafrif o destunau Llydaweg Canol, hyd at yr 17g, yn ymdrin â phynciau chrefyddol. Ymhlith y rhain mae nifer o ddramâu miragl sydd yn seiliedig ar hanesion yr Efengyl a bucheddau'r saint. Mae un ddrama firagl, Buhez Santez Nonn ("Buchedd y Santes Non"), yn seiiliedig ar destun Lladin o Fuchedd Dewi. Enghraifft o farddoniaeth grefyddol y cyfnod ydy Mellezour an Maru ("Drych Angau"), cerdd hir o 1519 sydd yn ymwneud â'r Farn Ddiwethaf. Y rhyddiaith gyntaf o bwys yn Llydaweg ydy Buhez Sante Cathell ("Buchedd y Santes Gatrin"; 1519), cyfieithiad o ffynhonnell Ladin yn bennaf.

Llenyddiaeth Llydaweg Modern

Dywed i'r Llydaweg Modern gychwyn yng nghanol yr 17g, er i lenyddiaeth yn yr iaith barhau i ymdrin â ffurfiau a phynciau tebyg i weithiau cyfnod y Llydaweg Canol. Parhaodd traddodiad y ddrama firagl yn brif ffurf llenyddiaeth Lydaweg hyd at y 18g.

Adfywiad y 19g

Ffynnai diddordeb yn yr iaith Lydaweg yn nechrau'r 19g, yn bennaf mewn ymateb i'r ymdrechion gan lywodraeth Ffrainc i ddifa ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol y wlad. Cyfieithwyd y Beibl i'r Llydaweg yn 1827 gan Jean François Legonidec. Carreg filltir bwysig yn adfywiad yr iaith lenyddol oedd hyn, er na chafodd bathiadau Legonidec a'i ymdrech i buro'r iaith rhag benthyceiriau Ffrangeg fawr o ddylanwad. Yn 1839 cyhoeddwyd y casgliad Barzaz Breiz ("Barddoniaeth Llydaw") gan Hersart de Villemarqué. Fe honnai taw detholiad o ganeuon hen iawn y werin Lydewig ydoedd, ond yn wir fe adolygai sawl un ac roedd nifer fawr ohonynt o darddiad diweddar. Serch hynny, sbardunwyd nifer o awduron eraill megis Anatole Le Braz i gasglu, cofnodi a chyhoeddi llên lafar y Llydawyr: rhigymau, straeon gwerin, diarhebion, damhegion, a dychmygion ar eiriau. Un o feirdd mwyaf poblogaidd y cyfnod oedd Prosper Proux, awdur Canaouennou gret gant eur C’hernewod ("Cerddi gan Ddyn o Gernyw"; 1838).

Yr 20g

Sefydlwyd sawl cyfnodolyn yn yr 20g i gyhoeddi gwaith newydd, gan gynnwys Gwalarn (yn ddiweddarach Al Liamm). Un o nofelau gwychaf yr iaith ydy Itron Varia Garmez (1941) gan Youenn Drezen. Ymhlith llenorion pwysig eraill yr 20g mae'r bardd crefydol Yann-Bêr Kalloc'h Jean Pierre Colloc'h a'r bardd natur Roperzh Er Mason.

Llyfryddiaeth

Gweler hefyd