Mirouer de la mort

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Mirouer de la Mort)

Gwaith barddonol Llydaweg Canol gan Jehan an Archer yw Le Mirouer de la Mort ('Drych Angau'). Fe'i cyhoeddwyd ym 1575, ar ôl marwolaeth yr awdur, yn Cuburien, 2 km o Morlaix yn Llydaw. Fe'i cyfansoddwyd mwy na hanner canrif ynghynt. Fel y gweddill o lenyddiaeth Llydaweg Canol, mae'r cynnwys yn grefyddol, a'r awdur yn galw ar y darllennydd i fyfyrio ar ei gyflwr dyfodol ar ôl angau. Mae'n debyg ei fod yn addasiad barddonol o gyfieithiad Ffrangeg o waith rhyddiaith Lladin gan Denys van Leeuwen. O ran iaith, mae'r testun yn adlewyrchu ffurf hynafol o Lydaweg Canol.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.