Llenyddiaeth Lydaweg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 15: Llinell 15:
=== Yr 20g ===
=== Yr 20g ===
Sefydlwyd sawl cyfnodolyn yn yr 20g i gyhoeddi gwaith newydd, gan gynnwys ''Gwalarn'' (yn ddiweddarach ''Al Liamm''). Un o [[nofel]]au gwychaf yr iaith ydy ''Itron Varia Garmez'' (1941) gan [[Youenn Drezen]]. Ymhlith llenorion pwysig eraill yr 20g mae'r bardd crefydol [[Jean Pierre Colloc'h]] a'r bardd natur [[Roperzh Er Mason]].
Sefydlwyd sawl cyfnodolyn yn yr 20g i gyhoeddi gwaith newydd, gan gynnwys ''Gwalarn'' (yn ddiweddarach ''Al Liamm''). Un o [[nofel]]au gwychaf yr iaith ydy ''Itron Varia Garmez'' (1941) gan [[Youenn Drezen]]. Ymhlith llenorion pwysig eraill yr 20g mae'r bardd crefydol [[Jean Pierre Colloc'h]] a'r bardd natur [[Roperzh Er Mason]].


===Llyfryddiaeth===
*[[Annaig Renault]], ''Women Writers in Breton'' (The Celtic Pen 1:2, 1993)
*[[Rhisiart Hincks]], ''I Gadw Mamiaith Mor Hen; Cyflwyniad i ddechreuadau ysgolheictod Llydaweg'' (Gwasg Gomer, 1995)
*[[Gwyn Griffiths]], ''Llydaw: ei llen a'i llwybrau'' (Gwasg Gomer, 2000) (teithlyfr gyda sylwadau ar lên Llydaw)
*[[Gwyn Griffiths]] a [[Jacqueline Gibson]] , ''The Turn of the Ermine - An Anthology of Breton Literature'' dros 500 tudalen y rhan fwyaf yn ddarnau Llydaweg a chyfieithiad Saesneg (Francis Bootle, 2006)
*''Cyfweliad â Llenor Llydaweg: [[Mikel Madeg]]'', ''Taliesin'' 115 (Haf 2002)
*[[Rita Williams]], ''[[Ronan Huon]] 1922–2003'', ''Taliesin'' 121 (Gwanwyn 2004)
*[[Jacqueline Gibson]], ''[[Per Denez]] 1921–2011'', ''Barn'' rhif 585 (Hydref 2011)
*[[Heather Williams]], ''Diffinio dwy lenyddiaeth Llydawv, ''Tu Chwith'' 12 (1999), tud. 51–6
*[[Heather Williams]], ''Diffinio Llydaw'', ''Y Traethodydd'' 157 (2002), tud. 197–208
*[[Heather Williams]], ''Ar drywydd Celtigrwydd: [[Auguste Brizeux]]'', ''Y Traethodydd'' 156 (2006), tud. 34–50
*[[Heather Williams]], ''Chwedlau ac arferion marwolaeth Llydaw'', ''Llên Cymru'' 34 (2011), tud. 216–25


== Gweler hefyd ==
== Gweler hefyd ==

Fersiwn yn ôl 23:51, 8 Gorffennaf 2019

Gellir rhannu llenyddiaeth Lydaweg yn dri chyfnod sy'n adlewyrchu hanes yr iaith Lydaweg: yr Hen Oes, yr Oes Ganol, a'r Oes Fodern.

Llenyddiaeth Hen Lydaweg

Dim ond ychydig o olion o'r Hen Lydaweg, sef y cyfnod o'r 7g i'r 11g, sydd yn goroesi, bron i gyd yn enwau a glosau ar eiriau Lladin mewn dogfennau.

Llenyddiaeth Llydaweg Canol

Cychwynnai cyfnod y Llydaweg Canol yn yr 11g. Y testun llenyddol cynharaf yn yr iaith Lydaweg ydy Dialog etre Arzur roe d'an Bretouned ha Guinglaff ("Ymddiddan rhwng Arthur, brenin y Brythoniaid a Gwinglaff") sy'n dyddio o'r 15g. Mae'r mwyafrif o destunau Llydaweg Canol, hyd at yr 17g, yn ymdrin â phynciau chrefyddol. Ymhlith y rhain mae nifer o ddramâu miragl sydd yn seiliedig ar hanesion yr Efengyl a bucheddau'r saint. Mae un ddrama firagl, Buhez Santez Nonn ("Buchedd y Santes Non"), yn seiiliedig ar destun Lladin o Fuchedd Dewi. Enghraifft o farddoniaeth grefyddol y cyfnod ydy Mellezour an Maru ("Drych Angau"), cerdd hir o 1519 sydd yn ymwneud â'r Farn Ddiwethaf. Y rhyddiaith gyntaf o bwys yn Llydaweg ydy Buhez Sante Cathell ("Buchedd y Santes Gatrin"; 1519), cyfieithiad o ffynhonnell Ladin yn bennaf.

Llenyddiaeth Llydaweg Modern

Dywed i'r Llydaweg Modern gychwyn yng nghanol yr 17g, er i lenyddiaeth yn yr iaith barhau i ymdrin â ffurfiau a phynciau tebyg i weithiau cyfnod y Llydaweg Canol. Parhaodd traddodiad y ddrama firagl yn brif ffurf llenyddiaeth Lydaweg hyd at y 18g.

Adfywiad y 19g

Ffynnai diddordeb yn yr iaith Lydaweg yn nechrau'r 19g, yn bennaf mewn ymateb i'r ymdrechion gan lywodraeth Ffrainc i ddifa ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol y wlad. Cyfieithwyd y Beibl i'r Llydaweg yn 1827 gan Jean François Legonidec. Carreg filltir bwysig yn adfywiad yr iaith lenyddol oedd hyn, er na chafodd bathiadau Legonidec a'i ymdrech i buro'r iaith rhag benthyceiriau Ffrangeg fawr o ddylanwad. Yn 1839 cyhoeddwyd y casgliad Barzaz Breiz ("Barddoniaeth Llydaw") gan Hersart de Villemarqué. Fe honnai taw detholiad o ganeuon hen iawn y werin Lydewig ydoedd, ond yn wir fe adolygai sawl un ac roedd nifer fawr ohonynt o darddiad diweddar. Serch hynny, sbardunwyd nifer o awduron eraill megis Anatole Le Braz i gasglu, cofnodi a chyhoeddi llên lafar y Llydawyr: rhigymau, straeon gwerin, diarhebion, damhegion, a dychmygion ar eiriau. Un o feirdd mwyaf poblogaidd y cyfnod oedd Prosper Proux, awdur Canaouennou gret gant eur C’hernewod ("Cerddi gan Ddyn o Gernyw"; 1838).

Yr 20g

Sefydlwyd sawl cyfnodolyn yn yr 20g i gyhoeddi gwaith newydd, gan gynnwys Gwalarn (yn ddiweddarach Al Liamm). Un o nofelau gwychaf yr iaith ydy Itron Varia Garmez (1941) gan Youenn Drezen. Ymhlith llenorion pwysig eraill yr 20g mae'r bardd crefydol Jean Pierre Colloc'h a'r bardd natur Roperzh Er Mason.


Llyfryddiaeth

Gweler hefyd