Samoa America: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad cod 2017 |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
|math_o_lywodraeth = Democratiaeth arlywyddol |
|math_o_lywodraeth = Democratiaeth arlywyddol |
||
|teitlau_arweinwyr1 = - [[Pennaeth Gwladwriaeth]] |
|teitlau_arweinwyr1 = - [[Pennaeth Gwladwriaeth]] |
||
|enwau_arweinwyr1 = [[ |
|enwau_arweinwyr1 = [[Donald Trump]] ([[Plaid Weriniaethol(Unol Daleithiau)|R]]) |
||
|teitlau_arweinwyr2 = - [[Rhestr llywodraethwyr Samoa America|Llywodraethwr]] |
|teitlau_arweinwyr2 = - [[Rhestr llywodraethwyr Samoa America|Llywodraethwr]] |
||
|enwau_arweinwyr2 = [[Togiola Tulafonoi]] ([[Plaid Ddemocrataidd (Unol Daleithiau)|D]]) |
|enwau_arweinwyr2 = [[Togiola Tulafonoi]] ([[Plaid Ddemocrataidd (Unol Daleithiau)|D]]) |
Fersiwn yn ôl 14:30, 22 Chwefror 2019
| |||||
Arwyddair: Samoa, Muamua Le Atua | |||||
Anthem: The Star-Spangled Banner ac Amerika Samoa | |||||
Prifddinas | Pago Pago1 | ||||
Dinas fwyaf | Pago Pago | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Samöeg | ||||
Llywodraeth | Democratiaeth arlywyddol | ||||
- Pennaeth Gwladwriaeth | Donald Trump (R) | ||||
- Llywodraethwr | Togiola Tulafonoi (D) | ||||
- Is-lywodraethwr | Ipulasi Aitofele Sunia (D) | ||||
Tiriogaeth anghorfforedig - Hawliwyd - Meddiannwyd |
yr Unol Daleithiau 1899 1900 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
199 km² (212fed) 0 | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2009 - Cyfrifiad 2000 - Dwysedd |
65,628 (196ain) 57,921 326/km² (65ain) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2007 $575.3 miliwn (211eg) $8,000 (120fed) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2007) | - (-) – - | ||||
Arian cyfred | Doler yr Unol Daleithiau (USD )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC-11) | ||||
Côd ISO y wlad | .as | ||||
Côd ffôn | +1-684
| ||||
1 Lleolir y llywodraeth yn Fagatogo. |
Tiriogaeth yr Unol Daleithiau yn ne'r Cefnfor Tawel yw Samoa America neu Samoa Americanaidd (Samöeg: Amerika Sāmoa neu Sāmoa Amelika). Fe'i lleolir yn hanner dwyreiniol Ynysoedd Samoa ym Mholynesia. Mae'r ynysoedd gorllewinol yn ffurfio gwlad annibynnol Samoa (Gorllewin Samoa gynt).
Mae Samoa America'n cynnwys pum ynys folcanig (Tutuila, Aunu'u, Ofu, Olosega a Ta'u) a dau atol (Atol Rose ac Ynys Swains). Tutuila yw'r ynys fwyaf a lleoliad y brifddinas, Pago Pago.
Hanes
Cafodd ynysfor Samoa ei rannu yn ddwy diriogaeth gan Gytundeb Berlin 1899. Cytunwyd i roi ynysoedd y gorllewin i'r Almaen, ynysoedd y dwyrain i'r Unol Daleithiau, a Ffiji i Brydain. Dan ddylanwad pennaeth Llynges yr Unol Daleithiau dros y Cefnfor Tawel, a'i ganolfan yn Pago Pago, gorfodwyd penaethiaid Samoa America i arwyddo dogfennau i ildio'u hynysoedd i'r Unol Daleithiau. Gwnaed Tutuila ac Aunu'u yn "diriogaethau anghorfforedig" Americanaidd ym 1900 a grŵp Manu'a (Ofu, Olosega, Ta'u, Atol Rose, Ynys Swain) ym 1904.
Llwyddodd y llynges i ennill rheolaeth dros y diwydiant copra, a chefnogai'r Eglwys Gynulleidfaol yn erbyn diddordebau'r penaduriaid lleol. Ceisiodd Adran Fewnwladol yr Unol Daleithiau i ymgorffori'r diriogaeth yn y 1950au, a chafodd hyn ei wrthsefyll gan y penadur Tuiasosopo.[1]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Samoa America ei milwroli oherwydd ei lleoliad strategol yn y frwydr yn erbyn Japan yn y Cefnfor Tawel. Trigai mwy o filwyr Americanaidd ar yr ynysoedd na Samoaid brodorol. Hyd heddiw, mae Maes Awyr Pago Pago yn cynnal ehediadau ar gyfer awyrennau milwrol, ac hyfforddir milwyr Samoaidd yng Nghanolfan Wrth Gefn Byddin yr Unol Daleithiau.[1]
Ar ddechrau'r 21g, ymdrechodd llywodraeth yr Unol Daleithiau i dynnu Samoa America oddi ar restr y Cenhedloedd Unedig o wledydd sydd heb eu datrefedigaethu.
Cyfeiriadau
- American Samoa. CIA World Factbook. CIA. Adalwyd ar 23 Medi, 2009.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Llywodraeth Samoa America