Ursula: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
buchedd |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Santes [[Brythoniaid|Frythonig]] oedd '''Ursula''' ([[Lladin]], yn golygu "arthes fechan"). Ei dydd gŵyl yw [[21 Hydref]]. |
Santes [[Brythoniaid|Frythonig]] oedd '''Ursula''' ([[Lladin]], yn golygu "arthes fechan"). Ei dydd gŵyl yw [[21 Hydref]]. |
||
Y chwedl yw ei bod yn dywysgoges o deyrnas [[Dumnonia]] ([[Dyfnaint]]). Ar gais ei thad, hwyliodd am [[Llydaw|Lydaw]] at ei darpar-ŵr [[Cynan Meiriadog]], gyda 11,000 o wyryfon fel gweinyddesau. Gyrrodd storm wyrthiol hwy yr holl fordd i draethau [[Gâl]] mewn diwrnod, a phenderfynodd Ursula fynd ar [[bererindod]]. Aeth i ddinas [[Rhufain]], ac yna ymlaen i ddinas [[Cwlen]], oedd dan warchae gan yr [[Hyniaid]]. Merthyrwyd y gwyryfon i gyd, a saethwyd |
Y chwedl yw ei bod yn dywysgoges o deyrnas [[Dumnonia]] ([[Dyfnaint]]). Ar gais ei thad, hwyliodd am [[Llydaw|Lydaw]] at ei darpar-ŵr [[Cynan Meiriadog]], gyda 11,000 o wyryfon fel gweinyddesau. Gyrrodd storm wyrthiol hwy yr holl fordd i draethau [[Gâl]] mewn diwrnod, a phenderfynodd Ursula fynd ar [[bererindod]]. Aeth i ddinas [[Rhufain]], ac yna ymlaen i ddinas [[Cwlen]], oedd dan warchae gan yr [[Hyniaid]]. Merthyrwyd y gwyryfon i gyd, a saethwyd Wrswla ei hun yn farw gan arweinydd yr Hyniaid. Dywedir i hyn ddigwydd tua [[383]]. |
||
Ym Masilica y Santes |
Ym Masilica y Santes Wrswla yng Nghwlen, ceir creiriau y dywedir eu bod yn weddillion Wrswla a'r gwyryfon. Mae eglwys [[Llangwyryfon]] yn Sir [[Ceredigion]] wedi ei chysegru iddynt, a gall fod y Lleucu sy'n nawddsant [[Betws Leucu]] yn yr un sir yr un person a Lucia, un o gymdeithion Ursula. |
||
==Buchedd== |
==Buchedd== |
Fersiwn yn ôl 10:05, 11 Rhagfyr 2009
Santes Frythonig oedd Ursula (Lladin, yn golygu "arthes fechan"). Ei dydd gŵyl yw 21 Hydref.
Y chwedl yw ei bod yn dywysgoges o deyrnas Dumnonia (Dyfnaint). Ar gais ei thad, hwyliodd am Lydaw at ei darpar-ŵr Cynan Meiriadog, gyda 11,000 o wyryfon fel gweinyddesau. Gyrrodd storm wyrthiol hwy yr holl fordd i draethau Gâl mewn diwrnod, a phenderfynodd Ursula fynd ar bererindod. Aeth i ddinas Rhufain, ac yna ymlaen i ddinas Cwlen, oedd dan warchae gan yr Hyniaid. Merthyrwyd y gwyryfon i gyd, a saethwyd Wrswla ei hun yn farw gan arweinydd yr Hyniaid. Dywedir i hyn ddigwydd tua 383.
Ym Masilica y Santes Wrswla yng Nghwlen, ceir creiriau y dywedir eu bod yn weddillion Wrswla a'r gwyryfon. Mae eglwys Llangwyryfon yn Sir Ceredigion wedi ei chysegru iddynt, a gall fod y Lleucu sy'n nawddsant Betws Leucu yn yr un sir yr un person a Lucia, un o gymdeithion Ursula.
Buchedd
Ceir buchedd Ladin ganoloesol i'r santes. Cyfieithwyd y fuchedd i'r Gymraeg tua diwedd y 15fed ganrif gan y bardd Huw Pennant o Sir y Fflint, brawd Thomas Pennant, abad Dinas Basing. Ceir y testun yn llawysgrif Llansteffan 34.